Dwy alwad ariannol newydd i ymchwil
23 Awst
Mae'r galwadau ariannol yma bellach ar gau.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru'n falch o gyhoeddi bod dwy alwad ariannol newydd nawr ar agor ar gyfer ceisiadau. Bydd yr arian ar gael o dan y cynlluniau canlynol:
- Ymchwil Er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru
- Cynllun Cyllid Ymchwil: Grant Ymchwil Iechyd
Mae gan alwadau RfPPB Cymru a Chyllid Ymchwil: Grant Ymchwil Iechyd broses ymgeisio dau gam. Bydd angen crynodeb o'r prosiect a'r achos dros flaenoriaethu ceisiadau Cam 1, a bydd yn cael ei asesu ar yr angen a phwysigrwydd ymchwil o'r cwestiwn ymchwil.
Ar gyfer y ddwy alwad yma y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 1 yw 13:00 ar 20 Hydref 2022. Yn dilyn asesiad, bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn/Cam 2 a fydd yn cael ei asesu ar ansawdd ac effaith debygol y wyddoniaeth yn ogystal â'r gwerth am arian.
Cylch gwaith a meysydd blaenoriaeth
Mae pob cais sy’n dod o fewn cylch gwaith cyffredinol y galwadau yn gymwys, fodd bynnag, fel arfer, rydym wedi nodi nifer o feysydd lle byddai croeso arbennig am geisiadau.
Ar gyfer y ddwy alwad cyllid, byddai croeso arbennig ar gyfer ceisiadau a fyddai’n:
- cyd-fynd â’r amcan lles gofal iechyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru; a/neu’n
- ymdrin â’r heriau a nodir yn Cymru Iachach, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
- ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng nghyd-destun y meysydd blaenoriaeth hyn.
Mae dogfennau i helpu gyda cheisiadau, ynghyd â'r gofynion cymhwysedd a chylch gwaith, bellach ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm cyllid.