Galwadau newydd am Wobr Amser Ymchwil a Chymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awr ar agor
27 Medi
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gau.
Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyfleoedd ariannu sydd ar gael o dan y cynllun canlynol:
Cynllun Cymrodoriaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol
Nod y gymrodoriaeth yw cefnogi unigolion i fod yn ymchwilwyr annibynnol drwy arwain a gwneud ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r gymrodoriaeth yn cynnig hyd at dair blynedd o gyllid llawn-amser (neu bedair neu bum mlynedd yn rhan-amser), i unigolion 60 mis neu lai o brofiad ymchwil ôl-ddoethuriaeth Cyfwerth ag Amser Llawn ar adeg ymgeisio.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaethau gwyddonol neu sy’n gysylltiedig â gofal cymdeithasol er mwyn gwneud gwaith ymchwil a fydd o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau a/neu ofalwyr, a gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru.
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i yrfa ymchwil a dangos sut y bydd y dyfarniad yn cefnogi eu potensial i fod yn ymchwilydd annibynnol.
Er bod unrhyw gais sy’n bodloni cylch gwaith cyffredinol y cynllun ac yn cydymffurfio â briff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ‘beth yw ymchwil gofal cymdeithasol?’ yn gymwys, ar gyfer yr alwad hon, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu yn arbennig geisiadau sy’n ymdrin â’r meysydd blaenoriaeth canlynol:
- yn cyd-fynd ag elfennau gofal cymdeithasol yr amcanion llesiant sydd yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru; a/neu
- yn ymdrin â’r heriau sy’n gysylltiedig â gofal cymdeithasol sydd wedi’u nodi yn Cymru Iachach, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol;
- yn ymdrin â materion iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng nghyd-destun y Rhaglen Lywodraethu neu Cymru Iachach
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gau.