Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Yn 2020/21, cychwynnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru adolygiad ar y cyd o’r llwybrau gyrfa a hyfforddiant/datblygiad i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r bwriad o alluogi capasiti a gallu ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad o’r adolygiad Hyrwyddo Gyrfaoedd Mewn Ymchwil o lwybrau gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022, yn nodi 17 o argymhellion gyda’r bwriad o wella cyfleoedd ar draws llwybrau gyrfa ymchwil i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae sefydlu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gam allweddol wrth fynd i’r afael â’r argymhellion hyn. Fel piler craidd llwybr gyrfa ymchwil cenedlaethol, mae'r Gyfadran yn darparu cymorth, arweiniad a hyfforddiant i’w haelodau sy’n ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol a phob cam gyrfaol. Ei nod yw datblygu cymuned o ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, sy’n sicr o gael amgylchedd cefnogol sy’n eu galluogi i gynnal eu hymchwil gydag effaith a chynnydd ar hyd eu llwybrau gyrfa ymchwil unigol. Bydd rhaglen waith y Gyfadran a Llwybrau Gyrfa Ymchwil ehangach yn cael eu harwain gan yr Athro Monica Busse.
Bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn:
- Cydlynu a goruchwylio ystod o gynlluniau gwobrau ymchwil personol hygyrch iawn (wedi'u targedu lle bo angen) i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y proffesiynau a chamau gyrfa
- Cyhoeddi data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymchwilwyr a datblygu cynlluniau gweithredu i helpu i hwyluso cynrychiolaeth gyfartal o bob grŵp, ar draws camau gyrfa a phroffesiynau, ymhlith ymchwilwyr Cymru
- Symud ymlaen â dysgu a datblygiad a mentora unigol a chyfoedion sydd eu hangen ar ein deiliaid gwobrau personol iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil
- Meithrin rhyngweithio a rhwydweithio rhyngddisgyblaethol ar draws cymuned y gyfadran o ddeiliaid gwobrau personol iechyd a gofal cymdeithasol o bob cefndir a phob rhan o Gymru
- Galluogi cyfleoedd i rannu ymchwil cyfadran o ansawdd uchel gyda chymunedau perthnasol yn y DU ac yn rhyngwladol, gyda golwg ar godi proffil ymchwil Cymreig a hyrwyddo cyfleoedd gyrfa ymchwil yr ymchwilwyr eu hunain.