Effaith brechu ar drosglwyddiad SARS-CoV-2 (COVID-19): adolygiad cyflym
Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi llwyddo i leihau effaith clefyd COVID-19 difrifol ar nifer y rhai sy’n mynd i mewn i’r ysbyty, yn dod yn sâl ac yn marw. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19 yn erbyn ei drosglwyddiad yn llai eglur, yn enwedig yn achos pobl â haint ysgafnach neu asymptomatig, neu mewn oes o amrywiolion newydd. Roeddem eisoes wedi cynnal RR â’r nod o archwilio’r dystiolaeth ynglŷn â risg trosglwyddo SARS-CoV-2 o bobl sydd wedi’u brechu i bobl sydd heb eu brechu neu wedi’u brechu (Rhif adroddiad – RR00012, Tachwedd 2021). Ar adeg yr adolygiad blaenorol hwn, roedd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn sefydlu adolygiad cyflym byw yn edrych ar effaith brechlyn COVID-19 ar drosglwyddiad SARS-CoV-2. Parhawyd â’r RR Byw hwn tan fis Ionawr 2022 pan gynhaliwyd y chwiliad diweddaru olaf (UKHSA, 2022). Mae’r RR hwn yn cynrychioli diweddariad (chwiliad hyd 15 Mawrth 2022) o’r fersiwn olaf o RR byw UKHSA, ac yn rhoi sylw i’r cwestiynau arolygu a ganlyn:
• Ydy brechu yn erbyn COVID-19 yn effeithio ar drosglwyddiad SARS-CoV-2 i eraill, yn yr is-grŵp o bobl sy’n dal COVID-19 ar ôl cael brechlyn?
• Sut mae’r risg o drosglwyddo ymlaen yn amrywio yn ôl y math o frechlyn, cwblhad y cwrs brechu, parhad ar ôl brechu, lefelau trosglwyddo cymunedol sylfaenol ac amrywiolyn SARS-CoV-2 yn y person sydd wedi’i frechu?
RR00054