Lisa Williams
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cymrodoriaethau Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC) Cymru
Bywgraffiad
Mae Lisa Williams wedi gweithio fel deitegydd yn GIG Cymru ers dros 30 mlynedd mewn swyddi clinigol, cymunedol ac iechyd y cyhoedd. Mae’n aelod o Gymdeithas Ddeieteg Prydain a rhwydwaith Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru ac mae ganddi TAR ac MA mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol. Ers 2012, mae Lisa wedi arwain rhaglen addysg faetheg gymunedol Cymru gyfan, Sgiliau Maeth am Oes. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys trawsnewid digidol hyfforddiant maetheg ac ymyriadau maetheg cymunedol. Mae hyn yn cynnwys; datblygu’r cymhwysiad symudol Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd, gwefan Sgiliau Maeth am Oes, strategaeth dysgu ac addysgu digidol a fframwaith gwerthuso rhaglen.
Adolygiad cwmpasu yw ei phrosiect Newydd i Ymchwil, o’r hyn sy’n gweithio, i bwy, o dan ba amgylchiadau ac i ba raddau ar gyfer ymyriadau maetheg cymunedol. Mae hyn wedi sbarduno angerdd i wneud gwaith gwerthuso realydd ym maes maetheg a deieteteg iechyd y cyhoedd.