Kerry Nyland
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cymrodoriaethau Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC) Cymru
Bywgraffiad
Cymhwysodd Kerry Nyland fel podiatrydd yn 2014 ac ers hynny mae wedi ennill profiad mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn ddiweddar, ymunodd â’r tîm yn Huntleigh Healthcare lle mae ganddi’r brif swyddogaeth o gysylltu â noddwyr ar gyfer hap-dreial a reolir yn gwerthuso cywasgiad niwmatig ysbeidiol (IPC) ar gyfer cleifion â chlwyfau gwythiennol ac achoseg gymysg ar aelodau isaf.
Daeth prosiect Newydd i Ymchwil Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC) Kerry i fodolaeth yn 2021 tra’r oedd yn gweithio fel Swyddog Ymchwil i BIP Caerdydd a’r Fro. Roedd yn dymuno dysgu mwy am ddylunio ymchwil a bu’n ddigon ffodus i weithio gyda’r tîm podiatreg i greu fideo hunangymorth i gleifion â llid y ffasgell wadnol/ poen sawdl gwadnol. Daeth hyn yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb dulliau cymysg i werthuso a oeddent yn dderbyniol i gleifion ac yn hawdd eu defnyddio. Mae wrthi’n ysgrifennu canlyniadau’r astudiaeth ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at rannu’r canfyddiadau.