Shannon Costello
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Ysgoloriaeth PhD Iechyd
Teitl y prosiect: The impact of mobile technology in hospitals on patient care management and clinical practice
Bywgraffiad
Mae Shannon yn fyfyriwr PhD a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cynnal ymchwil ar sut mae cofnodi arsylwadau cleifion gan ddefnyddio technoleg symudol newydd yng Nghymru yn effeithio ar glinigwyr a’r tîm amlddisgyblaethol.
Cyn y rôl hon, cwblhaodd BSc mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Northumbria, lle datblygodd ddiddordeb mewn gwaith cymdeithasol oedolion, ac MSc mewn Heneiddio, Iechyd a Chlefydau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys addysg a chydberthnasau proffesiynol gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, profiad bywyd pobl hŷn a'u rhwydwaith cymorth, a'r 'bwlch' rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.