Young person sat alone in room

Ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc yn gobeithio atal plant rhag ‘syrthio drwy’r bwlch’

6 Mawrth

Mae mwy na hanner yr holl broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc wedi ymsefydlu erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, ond mewn llawer o achosion, gellid helpu pobl ifanc cyn iddynt gyrraedd yr angen am ofal arbenigol. 

Mae ymyrraeth gynnar effeithiol yn allweddol i helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl – ond sut beth yw ymyrraeth effeithiol? 

Dyna’r cwestiwn y mae Dr Hayley Reed, o Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu Gwella Iechyd y Cyhoedd Prifysgol Caerdydd (DECIPHer), yn gobeithio ei ateb rwy brosiect sy’n edrych ar gefnogi iechyd meddwl y glasoed mewn ysgolion, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Dywedodd Dr Reed: “Mae tua 19% o’r glasoed yng Nghymru yn adrodd am symptomau cynyddol o bryder ac iselder, a chredir bod y ffigwr hwn wedi cynyddu ers pandemig COVID-19, felly rydym yn gwybod bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth wirioneddol. 

“Mae’r prosiect hwn yn ceisio llenwi’r bwlch lle mae pobl ifanc o dan y trothwy o anhwylder iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio, ond yn dal i fod â symptomau uwch.” 

Galwyd y grŵp penodol hwn “y canol coll” yn  yr adroddiad Cadernid Meddwl, a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2018.  

Roedd Cadernid Meddwl yn argymell cyflwyno dull ysgol-gyfan statudol o ymdrin ag iechyd meddwl fel rhan o strategaeth ehangach sy’n dod ag iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol ynghyd i wneud cymorth yn fwy cydgysylltiedig ac yn haws cael gafael arno. 

Meddai Dr Reed: “Ers 2018 mae'r ffocws ar iechyd meddwl y glasoed wedi dod yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru. Mae’r dull ysgol-gyfan a’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyflwynwyd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi rhoi mwy o bwyslais ar iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, ond efallai y bydd angen cymorth ar ysgolion i fodloni’r gofyniad i gyflwyno darpariaeth dargededig i’r bobl ifanc hynny sydd â lefel uwch o angen. Efallai nad oes gan athrawon ddigon o amser nac arbenigedd iechyd meddwl i wneud hyn eu hunain, ond gallwn ddysgu o ymyriadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol mewn gwledydd eraill. 

“Rydw i eisiau nodi beth sy’n gweithio mewn mannau eraill i wella iechyd meddwl myfyrwyr ysgol uwchradd, a p'un a ellid addasu ymyriadau i Gymru, i atal plant rhag syrthio drwy’r bwlch.” 

Mae Dr Reed yn gobeithio sicrhau cyllid pellach i helpu i ddatblygu a chyflawni ei hargymhellion, ar y cyd ag athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl ifanc eu hunain. “O fy ngwaith blaenorol gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, mae’n amlwg bod ysgolion eisiau bod yn rhan o ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant. Mae’n gyfle cyffrous i roi rhywbeth ar waith a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.”