Endometriosis ymchwil” yw’r allwedd i wneud cynnydd ar gyfer cleifion.”
22 Ebrill
Nod ymchwil y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu yw gwella ansawdd bywyd yr un ym mhob 10 o fenywod yng Nghymru sy’n byw ag endometriosis a lleihau’r cyfnod aros am ddiagnosis.
Clefyd cynyddol, diwella yw endometriosis, lle mae meinwe debyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill yn y corff. Mae’r feinwe hon yn cynyddu ac mae’n gallu gwaedu bob mis, yn debyg i’r mislif, ond nid yw’n gallu gadael y corff. Mae hyn yn gallu arwain at lid, gwaedu, poen a meinwe greithiol yn llunio.
Gall y cyflwr hwn fod yn wanychol, gan effeithio ar lesiant corfforol a llesiant meddwl, amser mewn addysg a chynhyrchiant yn y gwaith. Fodd bynnag, mae’n cymryd naw mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis.
Mae Rachel Joseph, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu, yn ymchwilio i sut i wella sgyrsiau cychwynnol rhwng cleifion a meddygon teulu, i wella adnabod y symptomau a chyflymu’r diagnosis. Meddai Rachel,
“Mae aros yn hir [am ddiagnosis] yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd yn sylweddol, nid yn unig o ran rheoli poen gwanychol a symptomau corfforol, ond effeithiau canlyniadol ar swyddi, addysg neu berthnasoedd.”
Gallai gwneud y cyfathrebu cynnar ag ymarferwyr gofal iechyd yn fwy effeithiol wella ansawdd bywyd cleifion a lleihau’r angen am brofion diangen, atgyfeiriadau neu driniaeth ddrutach a mwy ymledol yn ddiweddarach.
Bydd ymchwil Rachel yn gwerthuso gwefan a thraciwr symptomau Endometriosis Cymru, yn ogystal â chyfweld cleifion, meddygon teulu a nyrsys endometriosis arbenigol.
Mae Beth Hales o Benarth yn un o’r cleifion sydd wedi’u cynnwys yn yr astudiaeth; cafodd hi ddiagnosis o endometriosis yn 2015 ar ôl bron 20 mlynedd o fislifoedd poenus a phroblemau beichiogi. Meddai Beth,
“Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi clywed am endometriosis tan i mi gael y diagnosis. Diffyg ymchwil i’r cyflwr ydy un o’r prif rwystrau. Mae gwybodaeth yn bŵer ac ymchwil yw’r allwedd. Mae angen deall y clefyd hwn yn well er mwyn gwneud cynnydd ar gyfer cleifion. Diolch i ymchwil fel un Rachel, mi alla’ i roi tawelwch meddwl i’m merched y bydd pethau’n wahanol ar gyfer eu cenhedlaeth nhw.”