Amlinelliad o ffigwr dynol gydag amrywiaeth o eiconau sy'n gysylltiedig ag iechyd a thechnoleg

Astudiaeth newydd yn dangos potensial dysgu peirianyddol wrth nodi pobl ag arthritis llidiol yn gynnar

21 Ebrill

Mae astudiaeth gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi datgelu sut y gall dysgu peirianyddol helpu gyda chanfod arthritis llidiol Ankylosing Spondylitis (AS) yn gynnar, a chwyldroi sut mae pobl yn cael eu canfod ac yn cael diagnosis gan eu meddygon teulu.

Defnyddiodd y tîm ddulliau dysgu peirianyddol i ddatblygu proffil o nodweddion pobl sy'n debygol o gael diagnosis o AS, yr ail achos mwyaf cyffredin o arthritis llidiol.

Mae dysgu peirianyddol, math o ddeallusrwydd artiffisial, yn ddull o ddadansoddi data sy'n awtomeiddio adeiladu modelau i wella perfformiad a chywirdeb. Mae ei algorithmau'n adeiladu model yn seiliedig ar ddata sampl i wneud rhagfynegiadau neu benderfyniadau heb gael eu rhaglennu'n benodol i wneud hynny.

Gan ddefnyddio Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) sydd wedi'i leoli yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, cafodd cleifion ag AS eu canfod a'u paru â'r rhai hynny heb gofnod o gael diagnosis o gyflwr.

Datgelodd y canfyddiadau:

Mewn dynion, mae poen cefn is, uveitis (llid haen ganol y llygad), a defnydd o gyffur gwrthlidiol nad yw’n steroid (NSAID) o dan 20 oed yn gysylltiedig â datblygiad AS.

Roedd menywod yn dangos symptomau ar oedran hŷn o'i gymharu â dynion â phoen cefn a meddyginiaethau lleddfu poen lluosog.

Roedd gan ddata'r profion gyfradd rhagfynegi dda o tua 70 i 80 y cant; fodd bynnag, wrth gymhwyso'r model i boblogaeth gyffredinol, teimlai'r tîm y gallai fod angen modelau lluosog i leihau'r boblogaeth dros amser i wella'r gwerth darogan a lleihau'r amser i wneud diagnosis o AS.

Dr Jonathan Kennedy, Rheolwr Labordy Data NCPHWR ac arweinydd yr astudiaeth:

Mae ein hastudiaeth yn dangos y pŵer enfawr sydd gan ddysgu peirianyddol i helpu i nodi pobl ag AS a deall eu teithiau diagnostig yn well trwy'r system iechyd.

Mae canfod a rhoi diagnosis cynnar yn hanfodol i sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion. Gall dysgu peirianyddol helpu gyda hyn. Yn ogystal â hyn, gall rymuso meddygon teulu - eu helpu i ganfod a chyfeirio cleifion yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Fodd bynnag, mae dysgu peirianyddol yn y cyfnod cynnar o weithredu. Er mwyn datblygu hyn, mae angen data manylach arnom i wella rhagfynegi a chyfleustod clinigol."

Ychwanegodd yr Athro Ernest Choy, Ymchwilydd yn NCPHWR a Phennaeth Rhewmatoleg ac Ymchwil Drosi ym Mhrifysgol Caerdydd:

Ar gyfartaledd, mae'n cymryd wyth mlynedd i gleifion sydd ag AS o gael symptomau i gael diagnosis a chael triniaeth. Gall dysgu peirianyddol ddarparu teclyn defnyddiol i leihau'r oedi hwn."

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae'n wych gweld y rôl arloesol y gall dysgu peirianyddol ei chwarae wrth adnabod cleifion â chyflyrau iechyd fel AS yn gynnar a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth.

Er ei fod yn ei gamau cynnar, mae'n amlwg bod gan ddysgu peirianyddol y potensial i drawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr a chlinigwyr ymdrin â’r daith ddiagnostig, gan sicrhau buddion i gleifion a'u canlyniadau iechyd yn y dyfodol."