RCBCWales Yn Gyntaf i Gymrodoriaeth Ymchwil Ffoniwch 2023 nawr ar agor
22 Ebrill
Mae gan RCBC Cymru (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) 11 Chymrodoriaeth 'Newydd i Ymchwil' (FiR) i’w cynnig i gychwyn ar y 4 Medi 2023.
Mae pedair Cymrodoriaeth yn agored i bawb ac ar gael i i bob proffesiwn cymwys yn RBCBCymru. Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn gofrestredig yn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithiwr Proffesiynol Iechyd Cysylltiol (h.y. rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r the NMC, HCPC neu GPhC ar gychwyn eu hastudiaeth). Daw’r diffiniad o Broffesiynau Iechyd Cysylltiol o Gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd. Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi’u cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoleiddiol gwirfoddol cydnabyddedig drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd. Sylwer nad oes gan RCBCCymru y cyllid i ystyried gweithwyr proffesiynol tu allan i’r grwpiau gweithwyr proffesiynol gofal iechyd hyn.
Mae Cymrodoriaethau Newydd i Ymchwil (FiR) ar gyfer astudiaeth ran-amser am 12 mis ar sail un diwrnod yr wythnos. Bydd pob dyfarniad werth £12,224. O'r swm hwn, bydd £7,428 yn daladwy i’r sefydliad sy’n cyflogi fel cyfraniad at ryddhau cymrodyr am ddiwrnod yr wythnos, £3,897 tuag at gostau goruchwyliaeth a hyfforddiant yn y Sefydliad Addysg Uwch sy’n lletya, hyd at £531 tuag at gostau ymchwil a hyd at £368 ar gyfer costau teithio i fynychu dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion
Cyfraniad ydy’r cyllid sydd ar gael i gyflogwyr tuag at ryddhau Cymrodyr am y diwrnod (1 diwrnod yr wythnos am 12 mis ynghyd â dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion) ac fe’ch cynghorir i drafod unrhyw wahaniaeth rhwng eich cyflog a chyllid RBCBCymru a ddosrennir i gyflogwyr gyda’ch cyflogwr.
Hysbysir ymgeiswyr sydd, ar hyn o bryd yn gweithio rhan amser na all RCBCCymru dalu Cymrodyr Newydd i Ymchwil (FIR) yn uniongyrchol ac y dylen nhw drafod opsiynau tâl gyda’u cyflogwr am y cynnydd yn eu horiau allai fod o ganlyniad i dderbyn Cymrodoriaeth.
Mwy o wybodaeth a ffurflen gais