Ymchwilwyr o Gymru yn datblygu ap drymio rhyngweithiol i helpu pobl sy'n byw gyda chlefyd Huntington
22 Mai
I nodi Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Glefyd Huntington (11 – 17 Mai), mae ymchwilwyr o Gymru, wedi’u hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi datblygu ap drymio rhythmig newydd yn y gobaith o wella symudiad a gallu gwybyddol pobl sy'n byw gyda'r clefyd.
Nod yr astudiaeth, dan arweiniad Dr Claudia Metzler-Baddeley, yw oedi dechrau symptomau clefyd Huntington a gwella ansawdd bywyd pobl sydd â’r cyflwr a’u teuluoedd.
Diolch i gyllid grant ar gyfer y prosiect, mae Dr Claudia Metzler-Baddeley - Darllenydd mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, nawr yn gallu parhau â'i hymchwil i Glefyd Huntington drwy gynnal astudiaeth dan reolaeth ar raddfa fwy.
Awgrymodd astudiaethau treialu blaenorol Dr Metzler-Baddeley yn 2014 a 2020 y gallai dau fis o ymyrraeth drymio Bongo wella canolbwyntio a chryfhau cysylltiadau'r ymennydd. Yn yr astudiaethau hyn, gofynnwyd i bobl â chlefyd Huntington ddrymio ynghyd â chyfarwyddiadau sain o ddilyniannau drymio sy'n cynnwys patrymau rhythmig gwahanol.
Dywedodd Dr Metzler-Baddeley: "Byddai pobl yn dweud wrthym fod ganddyn nhw gydsymud dwylo gwell. Fodd bynnag, roedd y canfyddiadau o’r astudiaethau treialu hyn yn rai cychwynnol iawn, ac mae angen i ni eu profi nhw mewn grwpiau mwy o dan amodau wedi’u rheoli’n fwy."
Mae clefyd Huntington yn gyflwr etifeddol sy'n achosi colli celloedd mewn rhannau o'r ymennydd sy'n bwysig ar gyfer meddwl, symud a hwyliau.
Esboniodd:
Mae clefyd Huntington yn rhedeg mewn teuluoedd oherwydd ei fod yn cael ei achosi gan un o’r genynnau trechol, felly mae’r siawns y byddwch yn ei etifeddu yn 50 y cant. Mae'n effeithio nid yn unig ar symudiad, ond hefyd ar wybyddiaeth, hwyliau, a phersonoliaeth, ac mae effeithiau dinistriol ar ansawdd bywyd y person sydd â'r clefyd a'i deulu.
Dywedodd Dr Metzler-Baddeley fod drymio yn ymwneud â dysgu, cynllunio, a gweithredu patrymau symud rhythmig, ac mae angen y galluoedd allweddol o ganolbwyntio, cynllunio ac amldasgio.
Nod yr ap drymio y mae hi wedi'i ddatblygu, sef HD-DRUM, yw helpu i hyfforddi'r galluoedd allweddol hyn.
Ychwanegodd: "Dangosir i gyfranogwyr HD-DRUM sut i chwarae ar ddau ddrwm rhithwir - triongl glas a chylch coch - ar dabled. Wrth i bobl fynd ymlaen drwy'r rhaglen, bydd y patrymau yn raddol yn mynd yn hirach ac yn gyflymach gyda cherddoriaeth gefndirol.
"Mae'r cyfranogwyr yn ymarfer tan iddynt gyrraedd lefel o gymhwysedd cyn y gallant ddatgloi'r lefel nesaf er mwyn cadw'r hyfforddiant yn ddiddorol."
Bydd Dr Metzler-Baddeley yn neilltuo 50 o bobl gyda chlefyd Huntington i naill ai'r ymyrraeth ar gyfer hyfforddiant drymio neu grŵp rheoli gofal safonol.
Ychwanegodd: "Yn ein hastudiaeth, bydd cyfranogwyr yn y grŵp HD-DRUM yn dod â thabled adref gyda'r ap. Rydym yn gofyn iddynt hyfforddi gartref am 10 munud, pum diwrnod yr wythnos, am ddeufis. Yn syml, bydd pobl yn y grŵp rheoli yn parhau â'u gweithgareddau arferol am ddeufis.
"Bydd cyfranogwyr yn cael eu hasesu am eu galluoedd meddwl a symud a strwythur eu hymennydd cyn ac ar ôl yr hyfforddiant."
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wasanaethau'r GIG a all newid dilyniant newidiadau mewn symudiad a phrosesau gwybyddol mewn cleifion sydd â chyflyrau niwrolegol fel clefyd Huntington. Mae Dr Metzler-Baddeley yn gobeithio darganfod o'i hastudiaeth a yw pobl yn mwynhau'r hyfforddiant HD-DRUM ac os yw o fudd iddynt.
Ychwanegodd:
Efallai y bydd HD-DRUM yn gallu darparu adnodd hyfforddi hygyrch a chost-effeithiol o bell i helpu i gynnal neu wella symudiad a meddwl mewn pobl sydd â chlefyd Huntington heb unrhyw sgil-effeithiau niweidiol.
Byddai hyd yn oed ychydig o oedi mewn symptomau oherwydd cryfhau cysylltiadau a swyddogaethau'r ymennydd yn arwain at fanteision uniongyrchol ac arwyddocaol i ansawdd bywyd pobl sydd â'r clefyd a'u teuluoedd."
Bob dydd, mae llawer o ymchwil anhygoel yn digwydd yng Nghymru, cofrestrwch nawr ar gyfer ein bwletin wythnosol i ddysgu mwy.