Ymarferwyr gofal cymdeithasol yn ymgynnull yn Venue Cymru i drafod cefnogaeth i blant a theuluoedd
21 Mai
Daeth gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd yn Venue Cymru yn Llandudno yr wythnos hon ar gyfer y cyntaf o ddwy sioe deithiol ymchwil gofal cymdeithasol a gyd-gynhelir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Croesawyd mynychwyr yn nigwyddiad gogledd Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar ymchwil gofal cymdeithasol i blant a theuluoedd, gyda prif araith gan gyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland o CASCADE, a drafododd effeithiau tlodi ar les plant a theuluoedd.
Yn ogystal â manteisio ar y cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru yn ystod dychwelyd i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn sesiynau cyfochrog ymgysylltu o bob rhan o'r dirwedd gofal cymdeithasol. Rhannodd siaradwyr o CASCADE, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a'r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol arferion gorau o'u hymchwil ar atal plant rhag bod mewn gofal a gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl a'r rhai sy'n profi trawma parhaus.
Yn dilyn grwpiau trafod bywiog, bu ail set o sesiynau, a gyflwynwyd gan Gyngor Camden, Peer Action Collective, Prifysgol Lancaster a DECIPHer, yn archwilio gwaith sy'n seiliedig ar gryfderau gyda phlant a theuluoedd a'r dysgu presennol ynghylch gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal.
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyd-gynnal y gyfres bwysig hon o ddigwyddiadau gyda'n cydweithwyr yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Fe wnaethom ymrwymiad o'r newydd i ymchwil gofal cymdeithasol yn ein cynllun tair blynedd diweddar, ac mae digwyddiadau fel hyn, sy'n dwyn ynghyd ymarferwyr ac ymchwilwyr i rannu profiadau ac arfer gorau, yn hanfodol i wella canlyniadau i bobl Cymru."
Bydd yr ail sioe deithiol, sy'n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a chymorth i bobl hŷn, yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 13 Mehefin yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.