Helpwch yr Astudiaeth FAMILIAR i wella gofal cynllunio teulu ar gyfer pobl sy’n byw gydag arthritis llidiol
Hoffai Zoë Abbott, ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, eich gwahodd chi i gymryd rhan yn yr Astudiaeth FAMILIAR i helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae unigolion o oed cael plant yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau am gynllunio teulu pan fyddan nhw’n byw gydag arthritis llidiol awto-imiwn.
Mae cynllunio teulu yn yr astudiaeth hon yn cynnwys meddwl am gael babi, cynllunio’n weithredol i gael babi neu osgoi beichiogrwydd nad yw wedi’i gynllunio.
Mae’r prosiect "Astudiaeth FAMILIAR: Cyfweliadau" yn ceisio deall profiad unigolion sydd wedi’u heffeithio o ofal cynllunio teulu mewn lleoliadau rhewmatoleg a gofal sylfaenol i helpu i nodi beth, os unrhyw beth, y mae angen ei wella.
Mae’r astudiaeth yn ceisio recriwtio’r mathau hyn o bobl:
- menywod / y rhai a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni (AFAB), 18-50 oed sydd â diagnosis o arthritis llidiol (Arthritis Rhiwmatoid, Arthritis Psoriatig, Spondylitis Ankylose, Arthritis Idiopathig Ieuenctid neu lwpws), sydd o dan ofal y GIG
- aelodau o staff y GIG sy’n rhoi gofal i fenywod ag arthritis llidiol o oedran cael plant ac sy’n cael sgyrsiau am gynllunio teulu neu a allai gael sgyrsiau felly.
Y nod yw casglu profiadau a safbwyntiau’r bobl sydd wedi’u disgrifio uchod i ddatblygu ffordd o wella’r sgyrsiau pwysig hyn am gynllunio teulu yn y dyfodol. Mae’r ymchwilwyr eisiau i’r cleifion wneud eu dewisiadau gyda’r wybodaeth orau posibl, i fod yn hapus gyda’u dewisiadau, ac yn fwy diogel wrth eu gwneud nhw.
Bydd cymryd rhan yn cynnwys un cyfweliad, sy’n para tua awr. Caiff y cyfweliad ei drefnu ar adeg sydd orau i chi ac mae modd ei gynnal dros y ffôn, ar-lein neu yn bersonol yn dibynnu ar beth sydd orau i chi a phryd yr ydych chi ar gael.
I fynegi eich diddordeb a rhannu eich gwybodaeth gyswllt gyda’r tîm ymchwil llenwch y ffurflen hon.
Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2023