Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethur Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Diben

Mae’r cynllun integredig hwn yn darparu cyfleoedd i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ymgymryd â PhD llawn amser gan gymryd lle cyflog llawn.

Ar gyfer pwy

Ymchwilwyr cyn-ddoethurol a gyflogir mewn Sefydliadau Addysg Uwch neu staff a gyflogir mewn sefydliadau GIG neu Ofal Cymdeithasol sy’n dymuno gwneud PhD mewn pwnc iechyd neu ofal cymdeithasol.

Cyllid ar gael

Gellir gofyn am gyllid i dalu costau cyflog uniongyrchol (ni chaniateir unrhyw orbenion na chostau anuniongyrchol) yr ymgeisydd am 3 blynedd cyfwerth ag amser llawn (WTE), eu ffioedd dysgu PhD, a chostau prosiect ymchwil a rhaglen hyfforddi a datblygu priodol.

Pryd

Cynllun blynyddol yw hwn ac mae’r alwad nesaf wedi’i threfnu ar gyfer mis 17 Hydref 2024.


Cymorthfeydd Dyfarniadau'r Gymrodoriaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Doethuriaeth neu Uwch Gymrodoriaeth, gofynnwch i'r tîm yn un o'r cymorthfeydd:

  • Dydd Lau 7 Tachwedd 14:00 – 15:00
  • Dydd Mercher 27 Tachwedd 14:00 – 15:00

I gadw lle mewn cymorthfa e-bostiwch y tîm


Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.

O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.

Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.

 

Ar gau

Cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau neu os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau wrth baratoi eich cynnig, cyfeiriwch at y dogfennau canllaw ar yr alwad a ddarperir. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r tîm drwy e-bost: Research-Faculty@wales.nhs.uk