Arddangoswyd ymchwil yng Nghymru mewn cynhadledd ryngwladol yn Boston
22 Mehefin
Roedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhan o genhadaeth fasnach Llywodraeth Cymru i'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf i arddangos Cymru fel lleoliad unigryw i gyflwyno ystod eang o astudiaethau.
Cyfarfu'r tîm ag arloeswyr a gwyddonwyr o bob cwr o'r byd i dynnu sylw at ein cynnig i'r sector gwyddorau bywyd, sy'n cynnwys adnabod safleoedd a gydlynir yn genedlaethol; dull 'unwaith i Gymru' o ran cost a chontractio, a phrosesau darparu ymchwil ystwyth.
Mae ein profiad mewn sawl maes clefyd yn cynnwys oncoleg, haematoleg, diabetes, anadlol, cardiofasgwlaidd a chlefydau heintus.
Dywedodd Dr Yvette Ellis, Pennaeth Cenedlaethol Gweithrediadau Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Roedd yn fraint cael bod yn rhan o genhadaeth fasnach Llywodraeth Cymru i Boston a chydweithio â sefydliadau eraill fel Medi Wales, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan a CatSci i chwifio'r faner dros Gymru fel cyrchfan ar gyfer arloesi ac ymchwil.
"Roedd ein maint bach yn fonws go iawn ac roedd gan gwmnïau ddiddordeb mawr yn ein dull unigryw 'Cymru'n Un' o ddarparu ymchwil, sydd, fel y dangoswyd trwy'r pandemig, yn galluogi sefydlu cyflymach a chydweithio effeithiol i oresgyn heriau.
Roedd ein cyfleusterau ymchwil clinigol pwrpasol ar draws GIG Cymru a staff ymchwil profiadol y GIG hefyd yn bwyntiau gwerthu cryf iawn a fydd, gobeithio, yn hau'r hadau ar gyfer partneriaethau â diwydiant yn y dyfodol. "
Mae rhagor o wybodaeth am gynnig Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddiwydiant ar gael yma.