Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2023 ar agor
Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth ym maes iechyd a gofal ledled Cymru.
Os ydych chi wedi gwneud newid, mawr neu fach, y gwobrau yw eich cyfle i arddangos eich gwaith. Gall eich syniadau ar gyfer newid wneud gwahaniaeth i’r bobl dan eich gofal, eich sefydliad a’r system iechyd a gofal gyfan.
Trwy roi cynnig ar gyfer y gwobrau, gallwch godi proffil eich gwaith a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol i rannu dysgu ledled Cymru.
Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru roi cynnig ar y gwobrau, gan gynnwys myfyrwyr. Bydd yr enillwyr yn cael cynnig cefnogaeth barhaus. Bydd ganddynt lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel y gallwn helpu i ddarparu gofal diogel, effeithiol a dibynadwy.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn arbennig yn annog cyflwyniadau gan staff ymchwil y GIG ar gyfer y gwobrau.
I gael mwy o fanylion am y gwobrau, ewch i’r wefan neu cysylltwch â'r tîm.
Dyddiad cau: 17:00 ar 3 Gorffennaf 2023