Cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa ymchwil: Canolbwyntio ar gymrodoriaethau
Ydych chi eisiau datblygu’ch gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol drwy gais cymrodoriaeth bersonol?
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i gynnal gweithgarwch ymchwil yn wyneb pwysau gwaith arall ac, i lawer, bydd cymryd y cam nesaf yn golygu cais cymrodoriaeth bersonol lwyddiannus.
Mae'r gweithdy datblygu cymrodoriaethau hwn yn gyfle i ymchwilwyr, clinigwyr ac ymarferwyr sy'n gweithio mewn unrhyw sector iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghymru sydd:
- â syniad ymchwil i’w ddatblygu a rhywfaint o brofiad ymchwil fel PhD, MRes neu brofiad o weithio ar brosiect ymchwil wedi'i ariannu am o leiaf blwyddyn (nid o reidrwydd yn ddiweddar)
- â diddordeb mewn gwneud cais am gymrodoriaeth bersonol i gyllidwr yn y DU yn ystod y 6 - 12 mis nesaf.
Mae gennym hyd at 30 o leoedd wedi'u hariannu, (gyda bwrsariaeth teithio a llety ar gael i'r rhai y mae angen iddynt deithio pellteroedd sylweddol i fynychu) ar gyfer gweithdy cymrodoriaeth undydd. Byddwch yn gweithio gyda grŵp o ymchwilwyr profiadol a deiliaid dyfarniadau cymrodoriaeth presennol i ddatblygu’ch cais cymrodoriaeth. Gan ddefnyddio cyfuniad o drafodaeth a chyflwyniadau grwpiau bach, byddwn yn cynnig cymorth ar bynciau fel ysgrifennu ar gyfer grantiau, cyllidwyr addas, dylunio astudiaeth, sut i reoli a chyflawni prosiect ymchwil, a chynnwys cleifion a'r cyhoedd yn eich ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil.
Ein nod yw darparu cefnogaeth i bawb sydd â diddordeb mewn gyrfa academaidd ymchwil glinigol neu ymarfer. Rydym eisiau’ch gweld yn llwyddo i sicrhau eich cyllid ymchwil eich hun, cyflawni eich ymchwil eich hun o fewn y GIG neu ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn y pen draw gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru drwy ymchwil ymarferol.
Y Broses ymgeisio
Anfonwch ffurflen mynegi diddordeb drwy e-bost gyda'r atodiadau canlynol:
- Disgrifiad o'ch syniad ymchwil, gan gynnwys ychydig o gefndir, cwestiwn neu gwestiynau yr hoffech eu hateb, syniadau am y dull gweithredu y byddech yn ei gymryd a'r canlyniadau y byddech eisiau eu hystyried (dim mwy nag 1 ochr A4).
- Disgrifiad byr o'ch uchelgeisiau ymchwil, eich cynllun cyllido targed a sut y gallai'r gweithdy hwn helpu i greu cyfle i chi (dim mwy nag 1 ochr A4),
Anfonwch eich ffurflen mynegi diddordeb fel atodiadau drwy e-bost at: Research-Faculty@wales.nhs.uk gyda'r llinell destun Cais gweithdy cymrodoriaeth
Dydd Gwener 28 Gorffennaf 2023 yw’r dyddiad cau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych wedi bod yn llwyddiannus erbyn (dydd Gwener 11 Awst fan pellaf).