cyfrifiadur ar ddesg

Cod untro ar gyfer gwasanaethau IRAS ar Borth Adnabod NIHR

23 Gorffennaf

Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd yn cyflwyno'r cod untro i wella diogelwch systemau a gyrchir drwy Borth Adnabod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau’r System Ymgeisio Integredig ar gyfer Ymchwil (IRAS) ar gyfer e-gyflwyno diwygiadau, archebu Pwyllgor Moeseg Ymchwil ar-lein a cheisiadau am adolygiadau cyfunol.

Mae'r newid hefyd yn berthnasol i wasanaethau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a Rhwydweithiau Ymchwil Glinigol, gan gynnwys y System Rheoli Portffolios Ganolog (CPMS).

Pan fyddwch chi’n ceisio mewngofnodi i'r systemau hyn, bydd cod untro yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif o identity@nihr.ac.uk.

Cod 6 digid a gynhyrchir yn awtomatig yw’r cod untro a bydd angen i chi ei ddefnyddio i fewngofnodi o fewn 15 munud. Ar ôl i chi fewngofnodi gyda'ch cod untro, fel arfer byddwch chi’n gallu cyrchu systemau sy'n gysylltiedig â Phorth Adnabod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal am 30 diwrnod heb orfod defnyddio cod.

Am fwy o wybodaeth am y cod untro a sut mae'n gweithio, ewch i dudalen newyddion Porth Adnabod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y newidiadau hyn, e-bostiwch Desg Gwasanaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.