Ymchwil newydd i sgitsoffrenia yn anelu at wella triniaeth ac ansawdd bywyd cleifion yng Nghymru a thu hwnt
21 Gorffennaf
Mae ymchwilwyr o Gymru yn cynnal astudiaeth o brofion gwrthgyrff hanfodol ar gyfer rhai cleifion â sgitsoffrenia, a allai arwain at lai o bwysau ar ysbytai a llai o arosiadau mewn ysbytai, yn eu barn nhw.
Nod yr ymchwil, sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw gwella ansawdd bywyd cleifion â sgitsoffrenia y mae’r cyffur gwrthseicotig hirsefydlog clozapine wedi’i roi iddynt ar bresgripsiwn. Yn ôl elusen Mind, credir bod tua 1 o bob 100 o bobl yn cael diagnosis o sgitsoffrenia ar ryw adeg yn eu bywyd.Gall symptomau gynnwys lledrithion, rhithweledigaethau ac anhwylderau ymddygiadol a lleferydd. Oherwydd ei symptomau, efallai na fydd yr unigolyn yn sylweddoli bod rhywbeth o’i le ac ni fydd yn ceisio cymorth meddygol.
Mae’r cyffur clozapine wedi cael ei ddefnyddio fel triniaeth ers dros ddeng mlynedd ar hugain, sy’n golygu mai dyma’r feddyginiaeth fwyaf blaenllaw a’r unig gyffur effeithiol ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia sy’n gwrthsefyll triniaeth. Er ei fod wedi profi’n hynod effeithiol, mae cleifion sy’n cymryd clozapine yn wynebu mwy o risg o ddatblygu heintiau ar y frest ac, mewn rhai achosion, niwmonia, ac felly mae’n rhaid iddynt gael profion gwaed misol i fonitro eu celloedd gwaed gwyn a’r lefelau gwrthgyrff sydd eu hangen arnynt i wrthsefyll heintiau.
Nod yr astudiaeth newydd, gan dîm ymchwil Canolfan Diffyg Imiwnedd Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, yw canfod a allai profion gwrthgyrff rheolaidd fod o fudd i gleifion sy’n cymryd clozapine a lleihau eu risg o gael haint.
Mae Rachel Bradley, sy’n Hyfforddai Meddygol Craidd Academaidd, yn un o’r ymchwilwyr sy’n arwain yr astudiaeth.
Dywedodd hi: "Mae gwrthgyrff yn rhan allweddol o system imiwnedd y corff sy’n ein helpu i ymladd yn erbyn haint. Mae cleifion â sgitsoffrenia sy’n cymryd clozapine yn wynebu mwy o risg o gael rhai heintiau, a all olygu y gallan nhw fynd yn sâl a gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty. Gall hyn fod yn straen a gall amharu ar eu bywydau o ddydd i ddydd.
"Yn ddiweddar gwnaeth ein tîm ddarganfod lefelau isel o wrthgyrff mewn rhai pobl â sgitsoffrenia sy’n cymryd clozapine, a allai olygu eu bod yn fwy tueddol o gael heintiau. Rydyn ni eisiau gwneud mwy o waith ar hyn nawr er mwyn gweld a allwn ni ailadrodd y canfyddiad hwn ar raddfa fwy ar draws Cymru gyfan. Os byddwn ni’n gwneud hynny, gallwn ni awgrymu’n gryf y dylai profion gwrthgyrff ddod yn rhan o’r broses o fonitro clozapine.
Mae’r tîm ymchwil wedi bod yn datblygu’r astudiaeth ers 2019 ac, ar hyn o bryd, mae ar gamau olaf y broses o sefydlu’r astudiaeth. Maent yn gobeithio dechrau recriwtio cleifion yn yr hydref.
Mae’r astudiaeth wedi derbyn cefnogaeth a mewnbwn gan unigolion sydd â sgitsoffrenia, meddygon teulu a Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol.
Ychwanegodd Rachel: "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu’r astudiaeth ac am eu hadborth gwerthfawr wrth i’r astudiaeth fynd yn ei blaen.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn lleihau’r risg o haint difrifol i wella ansawdd bywyd cleifion â sgitsoffrenia ledled Cymru – a thu hwnt – yn ogystal â lleihau’r pwysau ar ysbytai, drwy sicrhau bod llai o gleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty."
Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.