PARABLE trial team

Canolfan ganser yn Abertawe yw’r gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn treial therapi pelydrau proton ar gyfer cleifion canser y fron

22 Medi

Abertawe yw’r ganolfan gyntaf yng Nghymru i gael ei dewis ar gyfer treial yn y DU sy’n ystyried manteision posibl therapi pelydrau proton i rai cleifion â chanser y fron.

Canolfan Ganser De-orllewin Cymru yw’r safle cyntaf y tu allan i Loegr i agor treial PARABLE. Bydd y treial hwn yn profi manteision therapi pelydrau proton o gymharu â radiotherapi safonol ar gyfer cleifion canser y fron sy’n wynebu mwy o risg o gael problemau hirdymor â’r galon ar ôl triniaeth radiotherapi.

Mae’r rhain yn gleifion sydd â chyflyrau cardiaidd neu gyflyrau clinigol penodol eisoes, a lle byddai’r radiotherapi yn targedu man sy’n agos at eu calon.

Mae tua 30,000 o bobl bob blwyddyn ledled y DU yn cael radiotherapi ar ôl llawdriniaeth i drin canser y fron. Mae radiotherapi safonol yn effeithiol iawn yn y mwyafrif helaeth o achosion, gyda llawer mwy o fanteision o gymharu â sgil-effeithiau. Fodd bynnag, i grŵp bach iawn o gleifion, llai nag un y cant, mae ychydig mwy o risg y gallant gael problemau gyda’r galon yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae therapi pelydrau proton yn defnyddio gronynnau wedi’u gwefru yn hytrach na phelydrau-X i dargedu tiwmorau’n fwy cywir. Y gobaith yw y bydd yn caniatáu i feddygon ddarparu’r dos yn union lle mae ei angen, gan leihau’r risg y bydd yr ymbelydredd yn achosi niwed i’r galon heb gynyddu’r risg o sgil-effeithiau cynnar fel cochni’r croen a newidiadau yn ymddangosiad y fron.

Fodd bynnag, mae therapi pelydrau proton yn ddrud a dim ond mewn rhai lleoliadau yn y DU mae ar gael. Dyma pam mae ymchwilwyr yn pwysleisio pwysigrwydd gwerthuso unrhyw fanteision posibl mewn treial.

Bydd PARABLE, y treial cyntaf o’i fath yn y DU, yn cofrestru 192 o gleifion ar draws 22 o safleoedd. Byddant yn cael eu rhoi mewn un o ddau grŵp a ddewisir ar hap.

 

Bydd un grŵp yn cael therapi pelydrau proton mewn un o ddau ysbyty yn Lloegr. Bydd yr unigolion yn y llall yn mynd i’w canolfan leol i gael radiotherapi pelydr-X safonol – y mwyaf modern ac o’r ansawdd gorau sydd ar gael yn unrhyw le yn y byd.

Dywedodd Dr Owen Nicholas, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton, mai’r rheswm am hyn yw bod meinwe’r fron a rhai nodau lymff y mae angen eu trin yn agos at y galon.

Rydyn ni’n gwybod bod y dos yn debygol o orlifo a tharo’r galon. I’r cleifion hynny, rydyn ni eisiau gweld a oes modd lleihau’r dos sy’n mynd i’r galon gan ddefnyddio protonau o gymharu â’r radiotherapi pelydr-X gorau sydd ar gael.

"Bydd gan gleifion cymwys ffactorau risg cardiaidd, boed yn glefyd y galon, pwysedd gwaed uchel neu BMI uchel yn flaenorol. Efallai y byddan nhw’n wynebu ychydig mwy o risg o broblemau â’r galon yn ddiweddarach mewn bywyd oherwydd radiotherapi.

"Cleifion iau sydd â ffactorau risg cardiaidd yw’r rhai a allai elwa fwyaf ar hyn yn ein barn ni, ac felly nhw sydd fwyaf tebygol o fod yn gymwys."

Dywedodd Dr Nicholas fod y ddau glaf cyntaf ym Mae Abertawe wedi cytuno i gymryd rhan yn y treial. Y bwriad oedd recriwtio hyd at bedwar arall.

Fel pob cyfranogwr, byddant yn cael eu dyrannu ar hap i dderbyn naill ai radiotherapi safonol neu therapi pelydrau proton yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Christie ym Manceinion neu Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Coleg Prifysgol Llundain. Yno, byddant yn derbyn 15 o driniaethau dros gyfnod o dair wythnos.

Bydd costau teithio a llety yn cael eu cynnwys ac mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ariannu nifer o gleifion sydd wedi’u dewis ar gyfer therapi pelydrau proton.

Bydd y rhai sy’n cael eu dewis ar gyfer radiotherapi safonol yn cael y driniaeth honno’n lleol. Fodd bynnag, fel pob canolfan PARABLE, mae Abertawe yn cynnig radiotherapi penodol – y radiotherapi mwyaf modern ac wedi’i dargedu sydd ar gael yn fyd-eang. Aeth Dr Nicholas ymlaen i ddweud:

Mae gennym ni radiotherapi o’r radd flaenaf. Dyma’r gorau sydd ar gael, ac roedd angen i ni fod ar y lefel honno i fod yn gymwys ar gyfer y treial hwn."

Mae’r treial yn cael ei gefnogi gan dîm cyflenwi ymchwil canser Bae Abertawe, sy’n cynnwys y nyrsys ymchwil oncoleg Emma Dangerfield, Esther Reeves a Michelle Romano; y rheolwr cyflenwi ymchwil Jayne Caparros; y radiograffydd ymchwil Bethan Williams; y radiograffydd Victoria Morris; a’r cynorthwyydd ymchwil Lewis Jones. Wrth siarad ar ran y tîm, dywedodd Emma Dangerfield:

Rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod y treial yn cael ei drefnu a’i gynnal yn ddidrafferth, fel bod ein cleifion yn cael y cyfle i gymryd rhan.

"Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi recriwtio ein cyfranogwyr cyntaf o fewn mis o agor ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi eraill yn y dyfodol."

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae PARABLE yn un o sawl treial sydd ar agor yng Nghymru sy’n ystyried a yw therapi pelydrau proton yn gwella canlyniadau ar gyfer gwahanol ganserau.

"Ein nod yw sicrhau ei bod hi mor hawdd â phosibl i gleifion gymryd rhan mewn ymchwil – p’un a yw ar agor yng Nghymru, neu mewn mannau eraill yn y DU."

Mae PARABLE yn cael ei arwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, y Sefydliad Ymchwil Canser (ICR) yn Llundain, ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Royal Marsden. Mae’n cael ei noddi gan ICR ac yn cael ei reoli gan Uned Treialon ac Ystadegau Clinigol ICR (ICR-CTSU), sy’n cael ei hariannu gan Cancer Research UK.

Mae’r treial yn cael ei ariannu gan bartneriaeth rhwng y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) (Rhaglen Gwerthuso Mecanwaith ac Effeithlonrwydd NIHR131120) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol.