Dr Paul Willis

Penodi cyfarwyddwr canolfan ymchwil newydd Prifysgol Caerdydd

24 Medi

Mae cyfarwyddwr wedi'i benodi mewn canolfan ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Dr Paul Willis yn ymuno â’r ganolfan newydd sbon Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), fel ei chyfarwyddwr cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Bydd yn arwain ein canolfan ymchwil newydd CARE, a sefydlwyd gyda £3m o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol:

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Dr Paul Willis o Brifysgol Bryste wedi’i benodi’n gyfarwyddwr sefydlu’r Ganolfan newydd ac Athro Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bydd yn dechrau yn ei swydd ganol mis Tachwedd.”

Mae Dr Willis yn arbenigwr mewn gofal cymdeithasol pobl hŷn ac yn Uwch Gymrawd o Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol NIHR. Mae ei feysydd ymchwil ym meysydd rhywedd, rhywioldeb a darpariaeth gofal, ac mae'n weithiwr cymdeithasol cymwys. Ychwanegodd Dr Willis:

Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n gyfarwyddwr y ganolfan ymchwil newydd hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm a chydweithwyr i adeiladu rhaglen ymchwil newydd i helpu i lywio a gwella’r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol o ansawdd uchel i bobl ag anghenion gofal a chymorth yng Nghymru.”

Bydd CARE yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol o bob rhan o’r brifysgol, gan feithrin cydweithrediad ag arbenigwyr mewn mannau eraill yn y DU, datblygu ymchwil flaengar ar ofal cymdeithasol oedolion, wedi’i hategu gan gyllid ymchwil ar lefel y DU.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Bydd y ganolfan ymchwil newydd sbon gwerth £3m ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn dod ag arbenigedd o bob rhan o’r sector ynghyd ac yn cyflawni ymrwymiad allweddol i gynyddu capasiti a gallu ymchwil gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

“Bydd Dr Paul Willis yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r rôl hon ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio a gweld y weledigaeth o gymuned ymchwil gofal cymdeithasol bywiog yn dod yn fyw.”

Mae'r ganolfan ar hyn o bryd yn recriwtio chwe swydd:

• Darllenydd

• pedwar swydd ymchwilydd

• Rheolwr Canolfan.

Mae swydd y Darllenydd a dwy o’r swyddi ymchwil yn gontractau penagored, gyda’r lleill yn rhai cyfnod penodol am o leiaf 3.5 mlynedd.

Yn amodol ar y broses adleoli fewnol, mae gwybodaeth lawn am y swyddi hyn a sut i wneud cais ar gael yma ar dudalen swyddi Prifysgol Caerdydd.