View of the University Hospital of Wales

Science in Health 2023

Mae’r Gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw ceisio trin a thrafod meysydd sy’n peri pryder mewn gofal iechyd a chyhoeddi ymchwil newydd am faterion iechyd i'r cyhoedd.

Cynhelir y darlithoedd rhwng mis Hydref a mis Ebrill ar ffurf gweminarau Zoom ar-lein rhad ac am ddim. Mae croeso i bawb – gan gynnwys disgyblion ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal iechyd.

Nod y rhaglen hon yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent.

Mae'n cynnwys pedwar prif faes:

  • darlithoedd cyhoeddus;
  • Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - yn Fyw!
  • Profiad gwaith yn y labordy
  • Life Sciences Challenge (Her y Gwyddorau Bywyd)

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Yr Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

Online