Ymchwilwyr yn y labordy.

Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil i ddiagnosis canser yr ysgyfaint

22 Hydref

Mae gan astudiaeth wedi ei wobrwyo newydd a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y potensial i chwyldroi'r ffordd y mae canser yr ysgyfaint yn cael diagnosis yng Nghymru a chyflymu triniaethau.

Mae astudiaeth QuicDNA, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'n partneriaid ar draws diwydiant, y GIG a sefydliadau'r trydydd sector, yn archwilio sut y gall prawf gwaed anfewnwthiol newydd o'r enw ctDNA ganfod marcwyr canser lluosog, a chyflymu'r amser o gyfeirio i ddechrau'r driniaeth.

Canser yr ysgyfaint yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin a phrif achos marwolaeth canser yng Nghymru. Ar hyn o bryd, gwneir diagnosis trwy biopsi meinwe, lle mae DNA yn cael ei dynnu o feinwe a gymerir o safle'r tiwmor yn yr ysgyfaint. Mae hon yn broses gymhleth ac anghyfforddus ac mae'r llwybr diagnostig hefyd yn hir.

Mewn cymhariaeth, mae'r prawf ctDNA yn cymryd sampl o DNA o waed claf, mewn proses sy'n debyg i brawf gwaed safonol.

Dywedodd Dr Magda Meissner, arweinydd ymchwil ar gyfer astudiaeth QuicDNA ac Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol yng Ngwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS):

Rydyn ni'n gwybod pa mor drawmatig mae diagnosis canser yn gallu bod i gleifion a'u hanwyliaid. Nod yr astudiaeth hon yw cyflymu'r diagnosis yn sylweddol fel y gall cleifion ddechrau eu triniaeth yn gyflymach, a all wneud yr holl brofiad o ddelio â chanser ychydig yn llai heriol."

Mae QuicDNA a'i bartneriaid wedi cael eu cydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd (AHA) Cymru 2023 am ei effaith drawsnewidiol ar ofal iechyd yng Nghymru. Enillodd y prosiect yr Enillydd Cyffredinol allan o'r holl ymgeiswyr ar y rhestr fer ar draws pob categori a'r Wobr am Ffyrdd Newydd o Weithio a ddathlodd ei ddull arloesol o ddiagnosis canser yr ysgyfaint.

Dywedodd Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy AWMGS: 

Rydym yn ddiolchgar am y prosiect hwn yr ydym mor angerddol amdano hefyd yn taro tant gydag eraill. Gobeithiwn y gall y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau AHA Cymru fod yn ysbrydoliaeth i eraill ym maes gofal iechyd ac rydym yn falch y bydd y prosiect yn caniatáu i gleifion canser sydd â chanser yr ysgyfaint gael mynediad at driniaethau yn gyflymach yn y dyfodol."

I gadw i fyny â'r ymchwil hon a newyddion ymchwil arall , cofrestrwch ar gyfer ein bwletin.