Dr Joanna Martin

Sicrhau chwarae teg o ran cefnogaeth: Astudiaeth o ferched ifanc ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

24 Tachwedd

Mae ymchwil yng Nghymru yn dangos bod mwy o ferched ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) nag a feddyliwyd yn flaenorol, gan sbarduno gobaith am ddiagnosis cynnar a chefnogaeth amserol i'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr.

Mae wedi ei arsylwi ers tro byd bod ADHD yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn, a bod merched yn llai tebygol o gael diagnosis ohono. Ond yn ôl Dr Joanna Martin, Uwch Gymrawd Ymchwil yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ADHD yn cael ei ystyried yn gyflwr niwroddatblygiadol a gall symptomau fod yn fwy amlwg ymhlith bechgyn.

Dywedodd Dr Martin:

Os na chânt eu trin na'u cefnogi, mae menywod ifanc ag ADHD mewn mwy o berygl o ddioddef amryw anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys hunanladdiad. Mae'n wirioneddol dorcalonnus.

“Mewn astudiaethau epidemiolegol o wledydd Sgandinafia, mae’r rhan fwyaf o fechgyn yn gael diagnosis o ADHD pan fyddant rhwng chwech a naw oed; mewn merched, yn y glasoed mae hynny’n digwydd pan fyddant rhwng 15 a 18 oed."

Mae gan Dr Martin ddiddordeb hefyd mewn astudio grŵp mwy amrywiol o rywedd o bobl ag ADHD. Fel rhan o astudiaeth ansoddol ddiweddar, fe wnaeth ei thîm ymchwil gyfweld â menywod sy'n oedolion ifanc a phobl anneuaidd am eu profiadau o dyfu i fyny gydag ADHD.

Ychwanegodd: "Rydyn ni eisiau sicrhau bod chwarae teg i ferched ifanc a phobl anneuaidd o ran mynediad at ddiagnosis a chefnogaeth. Mae angen i ni gyfleu'r neges, codi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis cynharach."

Mae Dr Martin yn gweithio ar ymchwil drwy Wobr Cymrodoriaeth Iechyd a Gofal Cymru / NIHR i ddeall ADHD yn well ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, ac i gynyddu ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o ADHD.

Gwrandewch ar y podlediad a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl lle bu Dr Martin yn trafod ei hymchwil ADHD.

I gael y diweddaraf o fyd ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.