‘Dwi’n teimlo fy mod i wedi cael fy mywyd yn ôl’ – ymchwil newydd yn gwella ansawdd bywyd cleifion gyda dialysis dros nos
21 Tachwedd
Mae treial ymchwil newydd ar y gweill yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor gyda'r nod o wella ansawdd bywyd oedolion â chlefyd yr arennau trwy gynnal dialysis dros nos.
Mae’r Nightlife Study yn dreial clinigol sy'n asesu a fydd dialysis dros nos yn gwella ansawdd bywyd pobl sydd â methiant yr arennau o gymharu â'r rhai sy'n cael sesiynau dialysis byrrach yn ystod y dydd.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cefnogi a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae'r astudiaeth hon yn enghraifft wych o ymchwil sy’n rhan o daith triniaeth y claf ac ni fyddai'n bosibl heb rolau hanfodol y staff cyflawni ymchwil glinigol ac ymarferwyr arbenigol."
Mae chwech o gleifion, pum dyn ac un fenyw, yn cymryd rhan ac eisoes yn teimlo'r buddiannau. Mae'r chwech bellach yn cael dialysis am wyth awr, dair gwaith yr wythnos yn lle pedair awr, dair gwaith yr wythnos.
Yn ôl Dr Abdulfattah Alejmi, sy’n Neffrolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hyd yma mae’r dialysis dros nos wedi rhoi gwell ymdeimlad cyffredinol o les i’r cleifion, gyda mwy o amser ar gael yn ystod y dydd i gymdeithasu, gweithio a gofalu am eraill.
Dywedodd: "Mae'r treial wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn gyda'r holl gleifion sy’n cymryd rhan a chafwyd adborth rhagorol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y canlyniadau ar ddiwedd y treial a fydd yn ei dro yn ein helpu i lywio sut y gallwn ni gynnig dialysis mewn ffordd wahanol i'n cleifion ledled y DU yn y dyfodol."
Cafodd Hajar Al Ghabari, 26, o Fangor ddiagnosis o glefyd yr arennau yn ei harddegau. Ers ymuno â'r treial dywedodd fod ei hansawdd bywyd wedi gwella'n aruthrol.
Meddai: "Mae gen i lawer mwy o ymwybyddiaeth yn ystod y dydd nawr, dwi'n gallu mynd a threulio amser gyda fy ffrindiau a fy nheulu a dwi'n teimlo cymaint yn fwy egnïol – dwi'n teimlo fy mod i wedi cael fy mywyd yn ôl."