CEDAR Prif Wyddonydd Gwerthuso Clinigol

Rydym yn chwilio am ymgeisydd gyda gradd israddedig neu feistr mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â gwyddor iechyd gyda naill ai doethuriaeth ymchwil (PhD) neu brofiad mewn adolygiadau tystiolaeth sy'n cyfateb i PhD i ymuno â'n tîm cyfeillgar yn CEDAR, rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda chysylltiadau i Brifysgol Caerdydd.

Mae CEDAR yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ym maes gofal iechyd trwy ei gontractau gyda sefydliadau a rhaglenni polisi cenedlaethol gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), a Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViHC). Mae CEDAR hefyd yn cefnogi asesiadau economaidd, ymchwil gwreiddiol a phrosiectau gwerthuso gwasanaethau.

Mae gennym swydd wag ar gyfer Prif Wyddonydd Gwerthuso Clinigol / Ymchwilydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi hyn drwy gynhyrchu adolygiadau tystiolaeth cyflym ar driniaethau arbenigol a chyflwyno'r canfyddiadau i bwyllgorau o arbenigwyr a phobl leyg tra'n arwain tîm o wyddonwyr gwerthuso i gyflawni'r allbynnau hyn. Mae dealltwriaeth o ofal iechyd yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i ysgrifennu a chyflwyno'n glir ar ymyriadau gofal iechyd cymhleth, gan gadw trefn ar nifer o bynciau i gwrdd â therfynau amser tynn.

Bydd y rôl gyffrous, ddeinamig hon hefyd yn cynnwys datblygu'r tîm asesu technoleg iechyd i wella eu gwybodaeth a'u galluoedd ymhellach wrth i CEDAR barhau i ddatblygu ac archwilio cyfleoedd ariannu newydd.

 

Contract type: Parhao
Hours: Llawn amser
Salary: Band 8a £51,706 to £58,210 y flwyddyn per annum
Lleoliad: Cardiff Medicentre, Cardiff
Job reference:
001-HS055-1123
Closing date: