Seiliau COVID Hir o ran yr Ymennydd a Choesyn yr Ymennydd (BBB-COV): Adroddiad cryno’r ymchwil
NOD: Mae COVID hir yn arwain at ystod eang o symptomau andwyol na ellir eu hesbonio gan brofion meddygol safonol. Mae angen brys i ddeall beth sy'n achosi COVID hir ac i nodi a datblygu ymchwiliadau gwell sy'n ymwneud â'r problemau mae'r rhai â COVID hir yn eu profi. Efallai y bydd y rhain yn helpu gyda diagnosis o wahanol fathau o COVID hir a gwella triniaethau ac, yn y pen draw, gwella canlyniadau i'r rhai sy'n dioddef gyda COVID hir.
CEFNDIR: Gall y coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) sy'n gyfrifol am COVID-19 effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau, yn enwedig y rhai sy'n rheoleiddio'r galon a'r anadlu. Mae coesyn yr ymennydd yn ardal allweddol sy'n dylanwadu ar hwyliau a meddwl — gall effaith y feirws ar yr ardal hon esbonio'r ystod amrywiol o symptomau a chyfrannu at y teimlad o ddiffyg anadl mae llawer o bobl â COVID hir yn ei brofi. Yn anffodus, nid yw sganiau a ddefnyddir yn nodweddiadol mewn ysbytai, h.y. tomograffeg gyfrifiadurol (CT) neu ddelweddu cyseiniant magnetig ysbyty confensiynol (MRI) yn delweddu na nodweddu coesyn yr ymennydd. Felly, bydd yr astudiaeth hon yn defnyddio sganiwr MRI mwy pwerus, arbenigol (MRI 7T) i archwilio'r ardal hon yn fanylach. Gall hyn helpu i nodi ardaloedd o'r ymennydd sy'n cyfrannu at symptomau mewn COVID hir. Yn bwysig, gall hefyd ddarparu gwybodaeth i arwain datblygiad triniaethau i leihau rhai o'r symptomau a brofir gan bobl â COVID hir.
PR002