grŵp dirprwyo nyrsys o'r DU yn cyfarfod y Brenin Siarl

Nyrs ymchwil flaenllaw yn cwrdd â'i Fawrhydi, y Brenin Charles III

22 Tachwedd

Roedd nyrs ymchwil flaenllaw o dde Cymru ymhlith dirprwyaeth o nyrsys o bob rhan o'r DU i gael gwahoddiad i dderbyniad arbennig a gynhaliwyd gan Ei Fawrhydi, y Brenin Charles III, ym Mhalas Buckingham yr wythnos hon.

Dywedodd Regina Reyes, Nyrs Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ei bod wedi "gwisgo coch ar gyfer ymchwil" ac wedi cyfarch y Brenin yn Gymraeg yn y digwyddiad, a oedd yn anrhydeddu ymdrechion ymroddedig nyrsys a bydwragedd a addysgwyd yn rhyngwladol ar hyd y degawdau.

Dywedodd Regina: "Gwahoddwyd pedair ohonom, a chefais fy enwebu i gynrychioli Cymru ynghyd â'n Prif Swyddog Nyrsio, Sue Tranka. 

"Roedd cynulleidfa fach wedi ei dewis i gwrdd â'r Brenin; cyn iddo gyrraedd cawsom ein briffio a chyflwynodd Sue ef i ni. Gwisgais ffrog Ffilipinaidd, oherwydd mae'n rhoi ymdeimlad cryf o hunaniaeth i fenywod Ffilipinaidd; fy mroetsh Gymreig, a het. Roeddwn i'n teimlo'n falch o fy nhreftadaeth a fy niwylliant - hyd yn oed yn rhan o weithlu amrywiol ac integredig yn fyd-eang, mae Ymchwil yn rhoi sedd i mi wrth y bwrdd.

"Fe gafodd y Brenin a fi sgwrs fach a dywedodd bod angen mwy o nyrsys fel fi ar y wlad – roeddwn i wedi fy syfrdanu!  Tra roeddwn i yn y digwyddiad, siaradais â nifer o bobl eraill a chyfleu'r neges bod ymchwil glinigol yn digwydd yma yng Nghymru.

"Roedd hi'n noson hyfryd i'w chofio ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle unwaith mewn oes hwn i allu cwrdd â'r Brenin a chynrychioli ein Nyrsys a Addysgwyd yn Rhyngwladol."