Victoria Shepherd

Uwch Gymrawd Ymchwil wedi'i henwi ymhlith wynebau nyrsio’r GIG 75

22 Ionawr

 

Enwyd aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Uwch-Gymrawd Ymchwil (Nyrs) Dr Victoria Shepherd o’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, fel un o wynebau ymchwil nyrsio’r GIG 75 gan Brif Swyddog Nyrsio Lloegr, i gydnabod ei hymroddiad i wella profiadau gofal ac ymchwil pobl.

Dywedodd Dr Shepherd: "Yn dilyn gyrfa mewn nyrsio gofal critigol, roedd gen i ddiddordeb mewn dod o hyd i ffordd o gyfuno fy mhrofiad clinigol gyda fy niddordeb eraill mewn cyfraith a moeseg feddygol. Cododd cyfle ar gyfer rôl nyrs ymchwil mewn uned treialon clinigol academaidd sy'n cefnogi treialon clinigol, a oedd yn cynnwys poblogaethau nad oes ganddynt y gallu i gydsynio.

"Canfûm fod yna ddiffyg ymchwil yn archwilio'r heriau moesegol, cyfreithiol ac ymarferol cymhleth dan sylw, ac es ymlaen i ddatblygu gyrfa academaidd fel ymchwilydd blaenllaw yn y maes hwn."

Mae Dr Shepherd yn gobeithio y bydd gwneud ymchwil yn fwy person-ganolog a chynhwysol yn sicrhau bod pawb yn y gymdeithas yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil ac yn elwa ohono.

Ychwanegodd: "Nod fy rhaglen ymchwil yw gwella cynhwysiant grwpiau sydd heb eu gwasanaethu mewn ymchwil, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu arloesiadau i gefnogi ymchwil sy'n cynnwys oedolion sydd â galluedd diffygiol i gydsynio. Mae dod â'm profiad clinigol a'm harbenigedd academaidd at ei gilydd yn fy ngalluogi i nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau i gynnwys y grŵp hwn, sydd heb ei wasanaethu mewn ymchwil."