Senior Research Delivery Nurse/Midwife/AHP
Mae cyfle secondiad unigryw a chyffrous am gyfnod penodol wedi codi i unigolyn rhagorol gael ei benodi yn Uwch Nyrs, Bydwraig neu Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Ymchwil Band 8a, a fydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth glinigol gref o fewn Canolfan Cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Bydd yr Uwch Nyrs, Bydwraig neu Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Ymchwil yn ymarferydd arbenigol annibynnol profiadol a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Pennaeth Cenedlaethol ar gyfer Cyflawni Ymchwil.
Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol wrth ddatblygu a gweithredu darpariaeth ymchwil ar draws lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, eilaidd a chymdeithasol.
Bydd angen bod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar ymagwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y Gwasanaeth, y gallu i gael ei ysgogi, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn.
070-AC086-0724