Pennawd o Philip yn gwisgo beanie.

Goresgyn canser ddwywaith: profiadau o gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil

22 Gorffennaf

Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo gwybodaeth feddygol a gwella gofal cleifion.  Bob blwyddyn, mae unigolion di-rif yn ymuno ag astudiaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy ‘Be Part of Research’, gwasanaeth sy'n cysylltu pobl â chyfleoedd ymchwil. Rhannodd y cyn-ddarlithydd, a drodd gwneuthurwr dodrefn, ei stori o gymryd rhan mewn ymchwil wedi i'w ganser ddod yn ôl yn annisgwyl.

Cymerodd Philip Cumpstone, 59, o Ystradgynlais, ran yn yr Astudiaeth PEARL a ymchwiliodd i weld a yw'r defnydd o sganiau PET-CT yn gwella cynllunio radiotherapi wedi'i dargedu er mwyn lleihau sgil-effeithiau posibl ar gyfer cleifion canser y geg ac oroffaryngeal.

Pam cymryd rhan yn yr astudiaeth?

Er gwaethaf goresgyn lymffoma yn 2011, ail-ddigwyddodd y cyflwr yn 2022 yn ei chwydd lymff. Pan oedd Philip yn cael ei drin am yr eildro, roedd yn awyddus i fanteisio ar y cyfle a chymryd rhan yn astudiaeth PEARL.

"Ar ôl wynebu diagnosis ac adferiad yn 2011, fe wnaeth hynny fy mharatoi ar gyfer y tro hwn. Gallaf lywio'r daith yn fwy hyderus nawr, gan dynnu o fy mhrofiad yn y gorffennol a deall y broses yn well."

Cafodd ei benderfyniad i gymryd rhan yn yr astudiaeth ei danio hefyd gan ddiddordeb mewn rheoli data o fewn y GIG ac awydd i helpu i ehangu gwybodaeth feddygol.

O gael sgan PET i ddarganfod yn union ble roedd y canser fel y gallant dargedu'r tiwmor yn union, i'w apwyntiad radiotherapi cyntaf, disgrifiodd Philip y profiad fel un hawddgar iawn.

"Mae'r tîm ymchwil nid yn unig wedi dangos proffesiynoldeb ond hefyd ochr ddynol, gan wneud y profiad cyfan yn bleserus ac yn galonogol.

"Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i fanylder ac esbonio popeth."

Roedd ei brofiad yn gadarnhaol iawn, diolch iddo dderbyn gofal gyda chyfathrebu agored, triniaethau manwl gywir ac ymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi drwy gydol y broses.

"Dwi wedi teimlo fy mod i'n cael fy mharchu a bron fel aelod o'r teulu ar bob cam."

Yn ystod ei driniaeth, parhaodd Philip i wneud dodrefn:

"Mae'r math o ddodrefn rwy'n eu gwneud yn aml yn cael ei alw'n 'gyntefig' neu 'ddodrefn ffyn Cymreig'. Fe’i gwneir yn bennaf drwy fforio mewn perthi ac o bren caled brodorol sydd wedi cwympo neu wedi’u thocio.”

Roedd gweithio coed gwyrdd yn ffocws mawr i Philip.  Iddo ef roedd hwn yn amser i ymarfer yr hyn a elwir yn ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ a roddodd gyfle iddo fyfyrio’n ystyrlon ac ystyried hunanreolaeth ei driniaeth canser.

"Fe gadwais i ddyddiadur a llyfr braslunio yn ystod y cyfnodau triniaeth i gofnodi syniadau dylunio a chadw'r arsylwadau hynny i lifo. Nid yw'r creadigrwydd byth yn stopio!"

Lle fydden ni heb ymchwil?

Mae Philip yn annog eraill i ystyried cymryd rhan mewn ymchwil.  I Philip, mae cymryd rhan mewn ymchwil yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i driniaethau unigol a dealltwriaeth feddygol ehangach o'r clefyd. 

"Rwy'n credu pan fydd cleifion a meddygon yn gweithio gyda'i gilydd, mae nid yn unig yn helpu pobl i wella, ond hefyd yn casglu data gwerthfawr ar gyfer gwella triniaethau ac ymchwil yn y dyfodol."

Darganfyddwch amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol neu gymorth yn eich ardal drwy ymweld â gwefan ‘Be Part of Research’