Dr Kim Kendall

Canlyniadau’r byd go iawn yn allweddol i ymchwil i sgitsoffrenia ac anhwylderau deubegynol

6 Gorffennaf

Mae angen mwy o gymorth a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol – dyna farn Arweinydd Arbenigol Iechyd Meddwl newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Kimberley Kendall.

Dywedodd Dr Kendall, seiciatrydd academaidd clinigol sy'n arbenigo mewn seiciatreg adsefydlu, fod pobl sy'n byw gyda sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol yn aml yn ei chael hi'n anodd cael swydd neu gartref - er gwaethaf triniaeth, a phwysleisiodd y rôl hanfodol y gallai cynnwys y cyhoedd ei chwarae mewn ymchwil i sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.

Ar hyn o bryd mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyrwyddo cyfle i bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau - neu sy'n adnabod rhywun sydd yn gwneud hynny - helpu gydag astudiaeth sy’n cael ei chynnal gan Dr Kendall a'i thîm ym Mhrifysgol Caerdydd i wella adferiad wedi'i dargedu (dyddiad cau 27 Gorffennaf).

Dywedodd Dr Kendall: "Rwy'n chwilio am bobl a fydd yn helpu i arwain yr ymchwil hon a'i phwyslais ac yn y pen draw, i'n helpu i wneud gwahaniaeth.

"Mae gen i ddiddordeb mewn canlyniadau'r byd go iawn, gan fod fy mhrofiad yn awgrymu bod y rhain yn bwysig i gleifion ac rwy'n credu bod eu profiad yn golygu bod y canfyddiadau'n fwy tebygol o gael eu defnyddio'n glinigol.

"Rwy'n gwneud ymchwil i ddatblygu canfyddiadau y gellir eu defnyddio i helpu cleifion, felly does neb mewn lle gwell i arwain fy newis o bynciau ymchwil na chleifion. Mewn gwirionedd, roedd fy ymadweithio â fy nghleifion mewn ymarfer clinigol yn rheswm allweddol dros newid i archwilio canlyniadau'r byd go iawn."

Bydd astudiaeth Dr Kendall yn edrych am gymariaethau rhwng sut mae genynnau penodol yn effeithio ar y ffordd mae pobl yn byw. Bydd yn defnyddio data o gofnodion iechyd electronig, ar sut mae pobl â'r cyflyrau hyn yn byw, ac yn datblygu model i ragweld pwy fydd angen mwy o gefnogaeth gan seiciatreg adsefydlu, gan arwain at driniaeth wedi'i thargedu yn gynnar ar ôl diagnosis.

Ar ôl graddio mewn Meddygaeth a Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd Dr Kendall yn bwriadu dilyn gyrfa mewn Niwroleg cyn darganfod ei diddordeb mewn Seiciatreg.  Hyfforddodd ar gynllun hyfforddi academaidd clinigol integredig (Llwybr Academaidd Clinigol Cymru) a chymhwysodd fel meddyg ymgynghorol mewn Seiciatreg Oedolion Cyffredinol gyda chymeradwyaeth mewn Seiciatreg Adsefydlu.

Cwblhaodd ei PhD, a ariannwyd gan Gymrodoriaeth Wellcome Trust, ar effeithiau math prin o amrywiolyn genetig sy'n effeithio ar anhwylderau seiciatrig a niwroddatblygiadol fel anabledd deallusol, anhwylder sbectrwm awtistiaeth a sgitsoffrenia.

Yn glinigol, mae Dr Kendall yn gweithio yng Ngwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan - sef y gwasanaeth geneteg seiciatrig cyntaf yn y DU - a dywedodd ei bod yn 'falch iawn' ohono, oherwydd bod y canfyddiadau ymchwil yn cael eu troi yn uniongyrchol i ofal clinigol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin a chael gyfleoedd wythnosol i gymryd rhan mewn ymchwil yng Nghymru i'ch mewnflwch.