Headshot of Dr Hendry

Sut y gwnaeth Dr Annie Hendry helpu i lunio dyfodol gofal iechyd Cymru drwy ymchwil

6 Gorffennaf

Nod Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw gwella iechyd a gofal cymdeithasol i bobl a chymunedau ledled Cymru, drwy ein cynlluniau cyllido a'r cymorth a gynigiwn. Rydym yn helpu ystod eang o brosiectau ymchwil, ac ymchwilwyr fel Dr Annie Hendry, sydd bellach yn mentora'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Mae Dr Annie Hendry yn Swyddog Ymchwil llawn amser yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Bangor.  Mae Annie yn ymchwilydd ansoddol y mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwasanaethau iechyd, stigma mewn gofal iechyd a safbwyntiau cleifion a gofalwyr. 

Cwblhaodd Annie efrydiaeth PhD Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2019, lle bu’n edrych ar brofiadau ysmygwyr sy’n byw gyda phroblemau’n ymwneud ag ysmygu a sut roedden nhw’n teimlo am gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint.

"Roedd canser yn bwnc nad oedd gennyf lawer o brofiad personol ag ef, ond newidiodd hyn wrth i'r astudiaeth fynd yn ei blaen ac yn ystod fy PhD, gan fod dau berson yr oeddwn yn meddwl cymaint ohonynt wedi cael diagnosis o ganser, a marw o hynny."

Disgrifiodd cyfranogwyr yr astudiaeth nad oeddent am wastraffu amser gwerthfawr meddyg gyda symptomau yr oeddent yn teimlo eu bod yn fân neu'n hunan-niweidiol oherwydd ysmygu. Daeth traethawd ymchwil PhD Annie i'r casgliad bod angen ymyriadau newydd i annog pobl sy'n ysmygu i geisio gofal sylfaenol yn gynnar, heb ofni cael eu barnu.

"Roedd yr efrydiaeth PhD gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nid yn unig wedi agor y drws i gymuned ymchwil Cymru i mi ond hefyd rhoddodd gyfle i mi ddatblygu fy sgiliau trwy gyfleoedd hyfforddiant.

"Mae'r broses ymgeisio yn llawer o waith, sydd ddim wir yn syndod. Fodd bynnag, mae'n eich helpu i ddeall yr hyn yr ydych y'n ceisio'i wneud ac yn bwysicaf oll yr hyn yr ydych yn ceisio'i gyflawni gyda'ch ymchwil."

Annie yw'r un sy'n goruchwylio myfyrwyr ac yn eu hannog i gamu i fyd ymchwil gyda chymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

"Rwy'n goruchwylio dau fyfyriwr PhD gydag un ohonyn nhw'n mynd drwy'r broses ymgeisio ar gyfer dyfarniad ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru."

Dywedodd Stella Wright, Swyddog Ymchwil arweiniol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol, a Myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, un o fentoreion Annie:

"Mae Annie, fy ngoruchwyliwr, wedi bod yn anhygoel.  Pan wnes i gais am gyllid am y tro cyntaf, fe wnaeth hi fy helpu'n fawr. Dangosodd i mi weminar Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a oedd yn canolbwyntio ar ysgrifennu ceisiadau, a hyd yn oed wedi cael mwy o gyngor i mi gan rywun arall yn y maes. Gwnaeth ei chefnogaeth hi straen y broses yn llawer haws, ac rwy’n ddiolchgar am ei harweiniad."

Mae gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sawl cynllun ariannu sy'n agor ym mis Medi a mis Hydref, gan gynnwys y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, Dyfarniad Cyflymydd Personol a'r Dyfarniad Datblygu Treialon. Cofrestrwch i'n cylchlythyr i fod y cyntaf i wybod pryd mae'r ceisiadau ar gyfer y cynlluniau ariannu yn agor.