Astudiaeth ymchwil yn anelu at ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach trwy brawf syml
22 Gorffennaf
Mae ymchwilwyr a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi astudiaeth a allai fod yn 'hynod arwyddocaol' sy’n anelu at ganfod a thrin canser yr ysgyfaint yn gynharach trwy brawf gwaed syml.
Mae'r tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio ar dechneg benodol sy'n ceisio canfod y clefyd yn gyflymach, ac atal cleifion rhag wynebu profion mewnwthiol ac amhleserus.
Mae’r astudiaeth yn cael ei harwain gan yr Athro Dean Harris ac Ira Goldsmith a’i rheoli gan adran ymchwil a datblygu'r bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth nyrsys cyflawni ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae mwy na 60 o gleifion y mae nodylau wedi’u canfod ar eu hysgyfaint wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o'r ymchwil trwy roi prawf gwaed syml. Mae'r canlyniadau hynny yn cael eu dadansoddi nawr fel rhan o'r astudiaeth.
Dywedodd yr Athro Harris: “Gallai canlyniad yr astudiaeth hon fod yn hynod arwyddocaol i'n cleifion a gallai gael effaith enfawr ar eu bywydau.
“Mae diagnosis cynnar pan gaiff nodwl amheus ei ganfod yn ystod y broses ddelweddu yn hanfodol er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i’n cleifion.
“Mae ein hastudiaeth yn gobeithio canfod canser yr ysgyfaint yn gyflymach gan ddefnyddio prawf gwaed a all wedyn arwain at ddechrau triniaeth yn gynt.”
Mae ei astudiaeth ddiweddaraf, y mae disgwyl iddi redeg tan fis Hydref, yn defnyddio techneg o'r enw sbectrosgopeg Raman i ganfod newidiadau mewn samplau gwaed sy'n gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint.
Os yw'n llwyddiannus, disgwylir y bydd yn cael effaith fawr ar ddiagnosis canser yr ysgyfaint ar gam cynharach o lawer.
Mae’r astudiaeth hon wedi bod yn bosibl oherwydd £45,000 o gyllid gan Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Feddygol, sy'n rhoi cyllid i gyflymu'r broses o drosglwyddo o ymchwil ddarganfod i'w darparu fel rhan o ofal iechyd.
Dywedodd yr Athro Harris: “Mae profion sgrinio presennol yn cynnwys sganiau CT na allant ddweud bob amser a yw nodylau yn ganseraidd, felly mae angen profion eraill.
“Mae'n gyffrous iawn i fod yn arwain yr astudiaeth hon, yn enwedig gan y gallai effeithio ar gynifer o bobl yn ein cymuned.”
Ychwanegodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, a thrwy ein nyrsys ymchwil penodedig a'r adran ymchwil a datblygu ehangach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rydym yn falch o allu cefnogi gwaith mor arloesol sydd â’r potensial i drawsnewid bywydau.”