Pobl yn dal cardiau i roi adborth

Cyfranogiad Anghymwys y Cyhoedd

Rydym wedi creu'r canllaw isod i helpu i ymdrin â sefyllfaoedd pryd nad yw aelodau'r cyhoedd sy'n cyfranogi mewn prosiectau ymchwil yn gymwys. Mae'r ddogfen ganllaw hon yn gydweithrediad rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, Swyddfa’r Prif Wyddonydd, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Gofynnwyd yn benodol am hwn gan dimau ymchwil, arweinwyr cynnwys y cyhoedd, a chyfranwyr cyhoeddus sydd wedi dod ar draws achosion o gyfranogiad anghymwys.

Yn y ddogfen hon, fe welwch enghreifftiau sy'n dangos sut i adnabod achosion posibl o gyfranogiad anghymwys a strategaethau ar gyfer ymdrin â hyn. Mae hefyd yn rhoi awgrymiadau ymarferol ar sut i wella mesurau diogelu i atal cyfranogiad anghymwys mewn prosiectau ymchwil.

Dros y chwe mis nesaf, rydym yn cynnal cyfnod ymgynghori i gasglu adborth ar gynnwys y ddogfen. Nod y broses hon yw sicrhau bod y canllawiau a ddarperir yn drylwyr ac yn ddefnyddiol. Yn ystod y cyfnod hwn, hoffem gael eich mewnbwn ar wahanol agweddau, fel eich meddyliau am gynnwys y ddogfen, awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, ac unrhyw anghenion neu argymhellion eraill sydd gennych.

Bydd eich cyfranogiad yn yr ymgynghoriad hwn yn caniatáu i chi gyfrannu at ddatblygiad y ddogfen ac yn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Rydym eisiau i chi sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ei ddefnydd arfaethedig ac yn darparu arweiniad dibynadwy i'r rhai sy'n wynebu'r sefyllfaoedd hyn.

Cyfranogiad Anghymwys y Cyhoedd

 

Ffurflen adborth