Dwy fenyw yn eistedd ar soffa yn edrych ar dabled

Hanner miliwn o bobl yn cofrestru gyda Be Part of Research

6 Awst

Mae dros hanner miliwn o bobl o bob rhan o'r DU bellach wedi cofrestru gyda 'gwasanaeth paru ymchwil' newydd blaenllaw, o'r enw Be Part of Research.  

Mae'r gwasanaeth ar-lein am ddim yn paru pobl ag astudiaethau iechyd a gofal addas, yn seiliedig ar eu diddordebau a ble maent yn byw. 

Be Part of Research yw'r gofrestrfa gwirfoddolwyr ymchwil gyntaf ledled y DU sy'n cwmpasu'r holl gyflyrau iechyd, gan gynnwys astudiaethau iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol. Mae wedi’i gynllunio i'w gwneud yn haws i ymchwilwyr a chyfranogwyr posibl mewn astudiaeth ddod o hyd i'w gilydd - gan ei gwneud yn haws nag erioed i bobl gymryd rhan.  

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 528,389 o bobl wedi cofrestru gyda Be Part of Research ac mae bron i 50,000 o bobl wedi cael eu recriwtio i astudiaethau drwy'r gwasanaeth, ers ei lansio ym mis Gorffennaf 2022. 

Mae'r gwasanaeth ar-lein yn cael ei gynnal gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

Sut mae Be Part of Research yn paru gwirfoddolwyr ag astudiaethau 

Mae gwirfoddolwyr yn cofrestru drwy ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost neu fewngofnodi i’r GIG - ac yn dewis y meysydd ymchwil iechyd a gofal y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Yna cânt eu paru ag astudiaethau addas yn seiliedig ar eu diddordebau a'u lleoliad, ac anfonir gwybodaeth atynt ynglŷn â sut i gymryd rhan. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cefnogaeth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Nicola Williams: 

Diolch i’r llawer o bobl o Gymru sydd eisoes wedi cofrestru gyda Be Part of Research – ac i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn ffyrdd eraill – dim ond oherwydd y gefnogaeth honno y mae gennym y triniaethau a’r gofal heddiw sy’n helpu i achub bywydau. Mae’n wych gweld dros hanner miliwn o bobl yn cofrestru gyda Be Part of Research – gallwch chi gyfrannu at wella iechyd a gofal cymdeithasol hefyd drwy gofrestru heddiw.” 

Mam newydd yn annog eraill i gofrestru ar ôl cael ei pharu ag astudiaeth bwysig ar ganser y croen 

Mae menyw o Reading, sy'n cael ei thrin am ganser y croen, wedi annog eraill i gofrestru gyda Be Part of Research, wedi iddi ymuno â threial pwysig ar-lein. 

Cafodd Beatrice ddiagnosis  o melanoma acral cam 3 dwy flynedd yn ôl. Mae melanoma acral yn ymddangos ar gledrau’r dwylo, gwadnau'r traed, neu o dan yr ewinedd, ac mae’n fath prin o ganser y croen, 

Datblygodd man du ar ei throed tra'r oedd yn feichiog gyda'i gefeilliaid, ond roedd yn credu mai dafaden ydoedd. 10 mis ar ôl rhoi genedigaeth, sylwodd fod y man tywyll wedi tyfu a’i fod bellach yn gwaedu.  

Dywedodd Beatrice: “Daeth yn ôl fel melanoma malaen. Roeddwn i wedi fy syfrdanu. Mae bod yn y sefyllfa honno pan fydd gennych efeilliaid 15 mis oed yn ofnadwy. A waeth pa mor galed rydych chi'n ceisio peidio, mae eich meddwl yn mynd i lefydd tywyll.” 

Cafodd 3 llawdriniaeth a blwyddyn o therapi ychwanegol wedi'i dargedu i atal y risg y bydd y canser yn dod yn ôl. Mae hi bellach yn rhydd o’r clefyd.  

Cafodd Beatrice ei pharu â MyMelanoma ar ôl iddi fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn astudiaethau canser y croen wrth gofrestru gyda Be Part of Research. Fel rhan o'r astudiaeth, cwblhaodd holiaduron ar-lein am ei ffordd o fyw, iechyd a hanes canser personol a’r teulu.  

“Iechyd yw'r peth gorau sydd gennym; dyma ein cyfoeth mwyaf. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu mwy a mwy am glefydau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - er mwyn gwella eu siawns, os byddant yn cael diagnosis."  

Mae hi bellach yn annog eraill i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal hanfodol trwy gofrestru gyda Be Part of Research. 

“Mae wedi bod yn brofiad hawdd, didrafferth. Mae bywyd yn brysur, on’d ydy? Dydw i ddim yn siŵr sut arall y byddai pobl yn cael gwybod am astudiaethau y byddent yn gymwys ar eu cyfer."  

Bron i 50,000 o gyfranogwyr wedi'u recriwtio drwy Be Part of Research 

Er bod dros filiwn o bobl yn cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal bob blwyddyn, nid yw bob amser yn hawdd i ymchwilwyr recriwtio cyfranogwyr addas i'w hastudiaethau. 

Mae Be Part of Research yn rhoi  mynediad rhwydd ac am ddim i ymchwilwyr a noddwyr at wirfoddolwyr sy'n ymwneud ag ymchwil o bob rhan o'r DU - gan alluogi timau astudio i recriwtio cyfranogwyr addas yn gyflymach ac yn fwy effeithiol. 

Mae'r gwasanaeth eisoes wedi bod yn hynod effeithiol wrth gefnogi recriwtio i astudiaethau. Cafodd bron i 50,000 o bobl eu recriwtio trwy Be Part of Research i 41 o wahanol astudiaethau - gan roi cyfradd trosi gyfartalog o dros 11%. 

Mae Be Part of Research yn nodi gwirfoddolwyr addas yn seiliedig ar oedran, grŵp ethnig, rhywedd, lleoliad a meysydd ymchwil.  

Mae 40 o astudiaethau gweithredol yn defnyddio'r gwasanaeth. Mae 14 arall eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth ac maent bellach ar gau ar gyfer recriwtio. Mae'r rhain yn amrywio o astudiaethau ymyrraeth ar raddfa fawr (gan gynnwys treialon brechlyn), i holiaduron ffordd o fyw ac astudiaethau arsylwadol. 

I wybod mwy 

I ddysgu mwy am gymryd rhan mewn ymchwil ac i gofrestru ar gyfer cyfrif am ddim gyda Be Part of Research, ewch i: www.bepartofresearch.uk . 

I gael gwybod mwy am ba astudiaethau all ddefnyddio Be Part of Research ac i gofrestru eich diddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth, ewch i: www.bepartofresearch.nihr.ac.uk/recruit-to-your-study