Astudiaeth INTREPID
Term cyffredinol ydy Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) a ddefnyddir i ddisgrifio clefydau’r ysgyfaint sy’n gwaethygu o dipyn i beth, gan gynnwys emffysema, broncitis cronig, ac asthma anghildroadwy (anhydrin). Mae dod yn fwy a mwy byr o wynt yn un o nodweddion y clefyd hwn.
Fe lansiodd GSK astudiaeth, sef INTREPID, i ymchwilio i effeithlonrwydd opsiynau triniaeth ar gyfer y cyflwr. Er mwyn sefydlu’r astudiaeth yn gyflym ac yn effeithlon, bu GSK yn ceisio cymorth i nodi ymchwilwyr a safleoedd ledled Cymru i fynd ar eu gofyn i gymryd rhan.
Ateb
Bu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio’n agos â Keir Lewis, ei arweinydd arbenigedd anadlol, a’r timau ymchwil a datblygu (Y&D) yn y byrddau iechyd yng Nghymru, i nodi a chysylltu ag ymchwilwyr posibl ac i gasglu datganiadau o ddiddordeb mewn gwesteio’r astudiaeth.
Detholwyd saith safle yng Nghymru o gymysgedd o leoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Bu’r tîm diwydiant yn cefnogi GSK a thimau Y&D y byrddau iechyd trwy’r broses dethol safle, yn hwyluso trafodaethau ac yn helpu i oresgyn rhwystrau.
Gan ddefnyddio dull ‘un-gost, un-contract’ o weithredu, trafodwyd telerau templed llunio contract a phennu costau ar gyfer y safle cyntaf, a sefydlwyd o fewn yr amserlenni cytunedig. Yna roedd modd cyflymu’r broses o sefydlu’r chwe safle arall oherwydd bod y templed ar gyfer llunio contract a phennu costau eisoes wedi’i drafod a’i gytuno.
Effaith
Mae’r recriwtio nawr wedi’i gwblhau ac mae 189 o gyfranogion wedi’u cofrestru i gymryd rhan yn yr astudiaeth o ledled saith safle. Mae GSK yn fodlon iawn â chymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â’r recriwtio a hefyd â’r amseroedd trafod telerau cyflymach a gyflawnwyd gan y gwasanaeth ‘un-gost, un-contract’.