mother_with_back_turned_holds_child

Ymchwil yn helpu i gefnogi rhieni ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot

6 Awst

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo safonau newydd sy'n cefnogi rhieni ifanc sydd mewn gofal neu sydd ar fin gadael gofal.

Mae'r siarter arfer da yn seiliedig ar astudiaeth pum mlynedd, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o’r enw ‘The children of ‘looked after’ children: care outcomes and experiences’, dan arweiniad Dr Louise Roberts. 

Fe'i cynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), Prifysgol Caerdydd, rhwng 2014 a 2019.

Amlygodd yr astudiaeth fwlch sylweddol rhwng anghenion cymorth rhieni sydd mewn gofal ac sy’n gadael gofal a'r gwasanaethau gwirioneddol a ddarperir gan gynnwys tai, iechyd a gofal cymdeithasol, gan nodi awgrymiadau ynghylch sut y gellir diwygio polisi ac ymarfer.

Mewn sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan CASCADE, siaradodd Dr Roberts am yr astudiaeth a dywedodd: “Gwnaeth y syniad ddim dod wrtha’ i yn eistedd yn fy swyddfa, syniad y bobl ifanc sy'n gysylltiedig â ‘Voices from Care Cymru’ oedd e’”.

Cafodd y siarter ei datblygu gan rieni sydd â phrofiad o dderbyn gofal a weithiodd gyda gweithwyr proffesiynol o elusennau a chynghorau ledled Cymru. Mae’n nodi canllawiau ac ymrwymiadau ar gyfer y cyngor i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer bod yn rhieni – gan gynnwys darparu hanfodion ar gyfer babi, cymorth gyda gofal sylfaenol fel rhoi bath a newid babi, yn ogystal â gwybodaeth a help gyda chymorth ariannol ac adnoddau lleol.

Ychwanegodd Dr Roberts: “Roedd rhieni yn dechrau pryderu am y gefnogaeth oedd ar gael i rieni. Roedden nhw’n gweld pobl ifanc yn mynd ymlaen i ddechrau eu teuluoedd eu hunain ac mewn rhai achosion roedd hynny'n brofiad cadarnhaol iawn, ond mewn gormod o achosion roedden nhw’n teimlo nad oedd pobl ifanc yn cael eu cefnogi'n iawn ac mewn rhai achosion roedden nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu plant.

“Fe wnaethon ni dynnu sylw at rywfaint o ddata pwysig o ran canlyniadau, profiadau a safbwyntiau a chefnogaeth.”

Yna cynhaliodd Dr Roberts brosiect effaith pellach, Cefnogi Rhieni sydd mewn Gofal ac sy’n Gadael Gofal, a arweiniodd at ddatblygu siarter arfer da.

Ariannwyd yr astudiaeth wreiddiol gan ddyfarniad Ysgoloriaeth Ymchwil ar gyfer Doethuriaeth mewn Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mewn partneriaeth â VFCC, NYAS Cymru a TGP Cymru a derbyniodd gyllid pellach gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd.