Lorna Stabler

O ofal maeth i brif siaradwr: Ymchwilydd o Gymru yn arddangos ei gwaith ar lwyfan byd-eang

6 Awst

Cyflwynodd ymchwilydd o Gymru sy’n rhan o bartneriaeth CASCADE, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, brif araith mewn fforwm byd-eang o bwys yn Sweden yr wythnos hon.

Siaradodd Lorna Stabler yng Nghynhadledd Gwaith Cymdeithasol y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant (ISPCAN) yn Uppsala, gan danlinellu ei chyfraniadau sylweddol i faes ymchwil gwaith cymdeithasol.

Fel rhywun a dreuliodd ei phlentyndod mewn gofal maeth gan ddod yn ofalwr maeth sy’n berthynas i'w brawd iau yn ddiweddarach, daeth â phersbectif unigryw a dwys i'w gwaith, gan ddylanwadu ar ffocws ei hymchwil ar gefnogi teuluoedd a'u rhwydweithiau yn well i sicrhau y gall plant aros yn eu cymunedau yn ddiogel.

Archwiliodd prif araith Lorna sut i symud y tu hwnt i gynnwys pobl â phrofiad bywyd mewn ymchwil mewn modd tocenistaidd yn unig. Rhannodd ddealltwriaeth ac enghreifftiau o'i gwaith gyda CASCADE, gan dynnu sylw at fanteision a heriau'r dull hwn a thrafod cyfeiriadau posibl ar gyfer ymchwil gwaith cymdeithasol yn y dyfodol sy'n cynnwys lleisiau'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system

Mae cynhadledd ISPCAN yn ddigwyddiad allweddol i weithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol, gan ddod ag arbenigwyr, ymarferwyr ac ymchwilwyr o bob rhan o'r byd at ei gilydd i drafod y datblygiadau a'r heriau diweddaraf o ran amddiffyn plant.