“Grymuso ein bydwragedd”: Shelly Higgins sy’n fydwraig ymgynghorol ar bwysigrwydd ymchwil arloesol ym maes bydwreigiaeth
22 Awst
Mae Shelly Higgins yn fydwraig ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Gweithrediaeth GIG Cymru (Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol).
Gan ddilyn yn ôl troed ei nain, mae hi wedi gweithio yn y proffesiwn ers 17 mlynedd mewn lleoliadau cymunedol gydag arbenigedd ychwanegol mewn canolfannau geni.
Bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae ei gwaith yn dal i roi boddhad iddi a dywedodd: “Mae gofalu am fenywod, ar ôl dod i'w hadnabod yn ystod eu beichiogrwydd ac yna dod i ofalu amdanynt pan fyddant yn esgor a meithrin perthynas â rhywun yn anhygoel.
“Rwy'n cofio llawer o'r genedigaethau rydw i wedi bod yn bresennol ynddyn nhw, ond mae gen i rai sydd mor fyw yn fy nghof wrth feddwl amdanyn nhw nawr. Rwy’n meddwl pa mor rymus oedd y menywod hynny.”
Cafodd Shelly ei denu at waith ymchwil am ei bod yn berson “chwilfrydig” erioed, ac roedd ganddi ddiddordeb mewn data a thystiolaeth o oedran ifanc.
Ymgymerodd â gradd israddedig mewn Seicoleg cyn hyfforddi fel bydwraig ac yna astudiodd am radd Meistr cyn cael cyllid tymor byr gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gofal Integredig i gynnal astudiaeth ymchwil fach.
Ym mis Ebrill, dyfarnwyd y dyfarniad Ymchwilydd sy’n Datblygu i Shelly gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae’r Gyfadran yn cynnig gwobrau personol i gefnogi unigolion i ddatblygu eu gyrfaoedd fel ymchwilwyr, a gwella gallu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae Shelly yn defnyddio ei dyfarniad i gwblhau rhywfaint o waith archwiliol a datblygu cynnig ymchwil ar gyfer astudiaethau Doethurol, ac mae ei maes diddordeb yn ymwneud â throsglwyddiadau wrth esgor neu yn fuan ar ôl genedigaeth o gartref neu leoliadau annibynnol a arweinir gan fydwragedd (canolfannau geni).
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wrthi’n hyrwyddo cyfle i helpu i lywio ymchwil Shelly, gan wahodd pobl sydd wedi esgor neu roi genedigaeth gartref neu mewn canolfan eni, ac yr oedd angen eu trosglwyddo i’r ysbyty, i rannu eu profiadau (dyddiad cau Medi 22).
“Cymerwch amser i geisio deall ymchwil”
Yn flaenorol, mae Shelly wedi bod yn rhan o ddatblygu dull Cymru gyfan ar gyfer trosglwyddiadau wrth esgor neu’r cyfnod ôl-enedigol cynnar o unedau cymunedol neu fydwreigiaeth.
Yn ei barn hi, mae angen i fwy o fydwragedd fod yn ymwybodol o ymchwil ac ymddiddori ynddi. Dywedodd: “Rwy’n ystyried bydwreigiaeth a’r hyn sy’n ysgogi’r hyn rydym yn ei wneud o ddydd i ddydd yw ceisio ymdrechu i ddarparu gofal i’n menywod a’n teuluoedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”
Yn ôl Shelly, mae’n bwysig defnyddio tystiolaeth o ganllawiau cenedlaethol ond hefyd o “wybodaeth ddealledig” – gwybodaeth werthfawr y mae bydwragedd wedi’i chael wrth weithio gyda theuluoedd a’u profiadau o feichiogrwydd.
Parhaodd Shelly: “Un o'r pethau allweddol yw grymuso ein bydwragedd i gymryd yr amser i geisio deall ymchwil a hefyd i gymryd rhan ynddi.”