Prof Paul Willis

Yr Athro Paul Willis

Gyfarwyddwr

Mae'r Athro Paul Willis yn Athro Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig, ac yn Gyfarwyddwr cyntaf CARE – y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Cymhwysodd fel gweithiwr cymdeithasol yn Tasmania, Awstralia ac mae wedi bod yn addysgwr gwaith cymdeithasol ers 15 mlynedd. Mae cefndir ymchwil Paul ym maes gerontoleg gymdeithasol ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar faterion cynhwysiant cymdeithasol a gofal yn ddiweddarach mewn bywyd, yn enwedig i bobl hŷn sy'n perthyn i grwpiau lleiafrifiedig sydd ag anghenion gofal a chymorth. Meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb iddo ac y mae’n arbenigo ynddynt: tai, heneiddio a chynhwysiant cymdeithasol; gofalwyr di-dâl ac ynysu cymdeithasol; unigrwydd, heneiddio a bywyd diweddarach; cysylltiadau cymdeithasol dynion hŷn; rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd a heneiddio; heneiddio LHDTC+; gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn; arferion a gwasanaethau gofal cymdeithasol cynhwysol..


Yn y newyddion

Director of new Cardiff University research centre appointed (28 September 2023)

Cysylltwch â  Paul:

E-bost