Mae eich profiadau bywyd yn werthfawr i ymchwil
22 Medi
“Mae ymchwiliwyr yn aros i glywed eich stori.” - Rachel Hazlewood, 54 oed, o Gaerdydd.
Mae Rachel yn berson awtistig yn byw gydag Enseffalomyelitis Myalgig (ME) sy’n defnyddio ei phrofiad bywyd er mwyn helpu i lywio ymchwil.
Roedd Rachel wedi bod yn helpu gydag ymchwil am dros 15 mlynedd cyn darganfod cymuned cynnwys y cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cysylltu aelodau o’r cyhoedd ag ymchwilwyr.
“Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi paratoi ffordd hawdd o ddod o hyd i brosiectau ymchwil perthnasol sy’n cyfateb i’m diddordeb a’m profiadau.”
Mae Rachel yn cael bwletinau e-bost rheolaidd gennym sy'n rhoi trosolwg byr o'r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn helpu i lywio prosiectau ymchwil. Er mwyn cael y negeseuon e-bost hynny, gwnaeth Rachel gofrestru i gael bwletin Ymchwil Heddiw.
“Mae dewis prosiectau ymchwil i ymgysylltu â nhw drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi’r sicrwydd i mi fod y prosiectau o ansawdd uchel.
“Mae'r tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys hefyd yn darparu cymorth rhagorol. Mae bob amser yno i ateb unrhyw gwestiynau ac egluro'n glir yr hyn sy'n ofynnol gennych.”
Mae Rachel wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ers cofrestru i fod yn rhan o'n cymuned cynnwys y cyhoedd. Un prosiect y gwnaeth Rachel helpu ei lunio oedd un gydag Adran Awdioleg Prifysgol Abertawe. Roedd yr ymchwilwyr yn edrych ar glyw a gweithgaredd yr ymennydd ymhlith oedolion hŷn. Gwnaeth ei mewnwelediadau helpu ymchwilwyr i ddeall gwahaniaethau synhwyraidd ymhlith pobl awtistig yn well. Dywedodd Rachel:
"Roedd yr holl broses yn ddiddorol iawn a dysgais lawer am fy sgiliau clyw a gwybyddol fy hun.”
Mae ei chyfranogiad a’i chyfraniadau hefyd wedi cael effaith ar gynnydd ceisiadau am gyllid rhai prosiectau. Dywedodd Dr Catherine Purcell, Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd, fod cyfraniad Rachel wedi helpu ei phrosiect ar anghenion gofal cymdeithasol oedolion niwrowahanol i symud i ail gam cyllido. Mae hyn yn dangos sut y gall cyfranwyr o blith y cyhoedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ymchwil.
"Mae pobl, fel Rachel, yn rhoi mewnwelediadau efallai na fydden ni wedi eu hystyried. Roedd eu mewnbwn yn gwneud ein cais ymchwil yn fwy perthnasol a chynhwysol i bobl awtistig.”
Mae profiadau Rachel o helpu i lywio ymchwil bob amser wedi bod yn gadarnhaol ac wedi gwneud iddi deimlo’n dda, dywedodd:
“Rwy’n teimlo bod fy mewnbwn yn cael ei werthfawrogi, a bod fy mhrofiadau a’m barn yn bwysig a bod fy nghyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
Ar hyn o bryd, mae Dr Purcell yn bwriadu ymgysylltu â rhieni plant niwrowahanol sydd â chyflyrau sy'n effeithio ar eu cydsymudiad, fel dyspracsia. Gan fod rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gallai trampolinio helpu i wella sgiliau cydsymud plant, mae Dr Purcell am edrych ar ba mor effeithiol yw trampolinio pan gaiff ei wneud gartref.
Er mwyn trafod y prosiect a rhannu eich syniadau â Dr Purcell llenwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb ar ein gwefan cyn 12:00 ar 23 Medi.