Women's panel.

Iechyd menywod yn cael sylw blaenllaw wrth i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynnal ei nawfed gynhadledd flynyddol

23 Hydref

Roedd ffocws yn cael ei roi ar iechyd menywod ddoe (dydd Iau 10 Hydref) yn nawfed gynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda siaradwyr a phynciau yn tynnu sylw at y rhan hanfodol mae unigolion a thimau cyflawni wedi’i chwarae yn yr ymchwil lwyddiannus sydd wedi’i chynnal yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Dogfennir y llwyddiannau mwyaf yn adroddiad blynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am 2023-24.

Wedi’i harwain gan ohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, roedd y gynhadledd, gyda'r thema Mae Ymchwil yn Bwysig, hefyd yn cynnwys araith sesiwn lawn gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton; yr ymchwilydd blaenllaw o Gymru, Dr David Price, meddyg ymgynghorol y GIG sy’n arbenigo mewn endocrinoleg a weithiodd fel ymgynghorydd meddygol ar ddrama’r BBC Men Up; sgyrsiau arddull TED a sesiynau cyfochrog, panel penodol yn trafod Iechyd Menywod, arddangosfeydd a gwobrau.

Diolchodd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, i bawb sy’n parhau i arwain a chefnogi gweithgarwch ymchwil yng Nghymru, ac i bob un o’r rhai sydd wedi rhoi o’u hamser i helpu i lywio ymchwil a chymryd rhan ynddi.

Dywedodd: “Drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal er mwyn sicrhau ei bod o’r ansawdd gwyddonol uchaf yn rhyngwladol, ei bod yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a’i bod yn gwella bywydau pobl a chymunedau.

“Mae’r defnydd o’r sylfaen dystiolaeth ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mor hanfodol ag erioed. Fel yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd ymchwil a datblygu yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth wella canlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned ymchwil yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd ac adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yma.”

Un enghraifft o’r ffordd y mae ymchwil wedi cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau cleifion yw drwy Sophie Pierce, 32 oed, o Sir Benfro, sy’n anelu at wneud hanes drwy fod y person cyntaf erioed â ffeibrosis systig i rwyfo ar draws Môr Iwerydd ym mis Ionawr 2025. Bydd Sophie yn siarad am sut y gwnaeth ymchwil, a’i chyfranogiad mewn treial clinigol, drawsnewid ei bywyd ar ôl iddi gael diagnosis o ffeibrosis systig pan oedd hi ond yn dri mis oed.

Erbyn ei hugeiniau cynnar, roedd Sophie i mewn ac allan o’r ysbyty yn rheolaidd, ac yn derbyn gwrthfiotigau mewnwythiennol hyd at bum gwaith y flwyddyn wrth i’w hysgyfaint waethygu. Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hyn, gwnaeth Sophie wrthod gadael i’w chyflwr ei diffinio, ac fe ddechreuodd gymryd rhan mewn treial clinigol ar gyfer cyffur newydd, Kaftrio, a welodd hi, yn y pen draw, yn adennill rhywfaint o weithrediad ei hysgyfaint ac yn profi gwelliant sylweddol o ran ei hansawdd bywyd.

Dywedodd Sophie: “Dydy e’ ddim amdana’ i yn unig. Mae’n ymwneud â’r hyn y gallwn ni ei ddysgu o hyn, ar gyfer y gymuned ffeibrosis systig a thu hwnt.

“Os yw’n bosibl i rywun â ffeibrosis systig rwyfo ar draws cefnfor, gallwch chi, yn llythrennol, fwrw ati a gwneud beth bynnag rydych chi ei eisiau yn eich bywyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am her Sophie a’i thîm, ewch i’w tudalen Cruising Free