Ein cyfrifoldeb: harneisio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer atal hunanladdiad - Dr Marcos Del Pozo Baños
22 Hydref
Rhybudd sbarduno: erthygl yn cynnwys trafodaeth am hunanladdiad, meddyliau hunanladdol ac ymdrechion hunanladdiad.
Mae 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae 16,000 o bobl yn ceisio lladd eu hunain.
Mae 126,000 o bobl yn cael trafferth gyda meddyliau hunanladdol.
Ac mae'r niferoedd yn cynyddu.
Lle a pham rydyn ni'n mynd methu?
Mae Dr Marcos Del Pozo Baños, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, lle mae hefyd yn eistedd ar Fwrdd Llywio’r Sefydliad Ymchwil Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad, ac yn gyd-arweinydd gweithgaredd craidd data iechyd meddwl wedi’i guradu gan FAIR yn DATAMIND (Hwb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Iechyd Meddwl) wedi bod yn defnyddio data i fynd i'r afael â'r argyfwng cynyddol ym maes iechyd meddwl, yn enwedig wrth atal hunanladdiad. Yn ôl ef, un mater allweddol o ran atal hunanladdiad yw'r anhawster o ran adnabod y rhai sydd fwyaf mewn perygl.
Tynnwyd Marcos at wyddoniaeth o oedran ifanc - gan dynnu radios a chyfrifiaduron yn gyfrannau, dim ond i weld sut maen nhw'n gweithio, a'u rhoi yn ôl at ei gilydd. Roedd ei gariad at ddatrys problemau wedi ei yrru tuag at Ddeallusrwydd Artiffisial (DA). Wrth iddo ddechrau cymhwyso DA i ymchwil iechyd meddwl, daeth effaith y byd go iawn yn glir. Drwy gyfuno DA â data lefel person, megis y data o Fanc Data SAIL yng Nghymru, gellid canfod patrymau a ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad a guddiwyd o'r golwg o'r blaen.
Er gwaethaf cynnydd, dim ond crafu'r wyneb maent wedi'i wneud. Mae atal effeithiol yn gofyn am ddull cyfannol ar draws pob agwedd ar fywyd, gan integreiddio gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd Marcos:
"Fel Gwyddonydd Data, rwy'n argyhoeddedig bod yn rhaid i'n dulliau ymchwil adlewyrchu hyn. Er mwyn trawsnewid atal hunanladdiad yn wirioneddol, mae angen i ni harneisio pŵer DA – dadansoddi setiau data helaeth i ddatgelu patrymau cymhleth cudd.
"Mae'n rhaid i ni wneud mwy. Os gall y data hwn a DA helpu, mae'n rhaid i ni bontio'r bwlch gydag atal hunanladdiad."
Trwy ddefnydd gofalus a chyfrifol o DA a data, gallem nodi'r rhai sydd mewn perygl, ac ymyrryd yn gynharach mewn ymdrech i leihau'r nifer ddinistriol o hunanladdiadau yng Nghymru."
I Marcos, dyma pam mae'r ymchwil yn bwysig: nid yw'n ymwneud â rhifau ar sgrin yn unig; mae'n ymwneud ag atal y colledion trasig hyn, un bywyd ar y tro.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Y cynllun yw cefnogi pobl yng Nghymru i fyw mewn cymunedau sy'n hyrwyddo, cefnogi a grymuso pobl i wella'u hiechyd meddwl a'u lles heb stigma a gwahaniaethu. Mae hefyd am ddarparu system gysylltiedig o gymorth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac ymchwil, lle gall pobl gael mynediad at y gwasanaeth cywir, ar yr adeg iawn, ac yn y lle iawn.
Gwyliwch Dr Marcos Del Pozo Baños yn cyflwyno trafodaeth dull TED yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 ar sut i bontio'r bwlch rhwng data ac ymyriadau yn y byd go iawn.
Os oes angen i chi siarad ar hyn o bryd, mae llawer o linellau cymorth wedi'u staffio gan bobl hyfforddedig sy'n barod i wrando. Ni fyddant yn eich barnu a gallant eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi'n ei deimlo.
GIG 111 - llinell gymorth iechyd meddwl brys
- I gael cymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2.
- Ffoniwch 116 123 (yn rhad ac am ddim ar unrhyw ffôn)
- Ffoniwch linell Gymraeg y Samariaid ar 0808 164 0123 (7pm–11pm bob dydd)
- E-bostiwch jo@samaritans.org
- Ymwelwch â rhai canghennau mewn person