four_women_and_one_man_on_a_stage

"Mae lles menywod er lles pawb": mewnwelediadau i bwysigrwydd iechyd menywod ar Ddiwrnod Menopos y Byd eleni

22 Hydref

Mae Diwrnod Menopos y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn a'i nod yw codi ymwybyddiaeth am y symptomau a'r opsiynau cymorth sydd ar gael.

Amcangyfrifir bod traean o boblogaeth menywod y DU yn profi'r perimenopos neu'r menopos a'i fod yn costio 14 miliwn o ddiwrnodau gwaith i economi'r DU bob blwyddyn, yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Roedd yn un o'r materion a amlygwyd yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eleni, lle'r oedd iechyd menywod yn ffocws allweddol.

Yn ystod panel iechyd menywod, dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Clinigol Strategol Iechyd Menywod, Gweithrediaeth y GIG, fod angen gwneud mwy i wella gofal iechyd i gleifion menopos.

Pan ofynnodd cadeirydd y panel, gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, sut i wella iechyd menywod yn gyffredinol dywedodd Dr Munro:  "Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud hynny yma heddiw," gan ychwanegu bod sgyrsiau yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth a helpu i daclo "rhagfarn anymwybodol".

Rhoddodd Rebecca Jones, Cyfarwyddwr Polisi Ymchwil a Datblygu Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, fewnwelediad i rôl polisi'r llywodraeth wrth hyrwyddo ymchwil glinigol, a rhannodd yr Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe ei hymchwil ar fwydo ar y fron a gofal babanod.

Cyflwynodd Dr Ceryl Davies, Economegydd Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ei chanfyddiadau ar effeithiau trais ar sail rhywedd, a dywedodd fod newid y dull o ymdrin ag iechyd menywod yn gofyn am ddatrysiad "cynhwysol".

I Dr Davies, mae'n rhaid i ddynion chwarae rhan allweddol yn nyfodol gofal iechyd menywod ac awgrymodd y byddent yn helpu i leihau costau cyffredinol a chreu gwasanaeth gwell o gwmpas wrth wneud hynny.  Dywedodd hi:  "Mae lles menywod er lles pawb."

"Mae gennym oll rôl i'w chwarae"

Mae iechyd menywod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru, a chafodd datblygiadau diweddar, fel prosiect MESSAGE (sef “Medical Science Sex and Gender Equity - ”Cydraddoldeb Rhyw a Rhywedd y Gwyddorau Meddygol), eu dathlu a'u trafod yn sesiwn y gynhadledd o'r enw 'Gwella Iechyd Menywod: hyrwyddo cydraddoldeb rhyw a rhywedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol'.

Defnyddiodd yr astudiaeth gynhwysol ddull sy'n seiliedig ar atebion, gan ddod â phobl o gefndiroedd gwahanol at ei gilydd mewn gweithdai i drafod sut i gynnwys rhyw a rhywedd yn well yn y ffordd y caiff ymchwil ei hymarfer.

Mae eisoes wedi arwain at gwblhau fframwaith polisi ac mae'r tîm MESSAGE yn awgrymu bod deall gwahaniaethau rhyw a rhywedd mewn ymchwil y DU yn hanfodol ar gyfer cywirdeb gwyddonol, diogelwch cleifion, cyfrifoldeb moesegol, cydymffurfiaeth gyfreithiol, a lleihau effeithiau economaidd sy'n gysylltiedig â chanlyniadau iechyd.

Daeth Dr Kate Womersley, Prif Ymchwilydd ar y Cyd y prosiect MESSAGE, y sesiwn i ben gydag apêl bod pawb yn ceisio sicrhau y bydd rhyw a rhywedd yn cael eu cynnwys mewn ymchwil. Y gobaith yw y bydd pawb, o ymchwilwyr i'r cyfryngau, yn gofyn i'w hunain "pwy gafodd ei gynnwys yn y treial hwn?".

Ychwanegodd Dr Womersley:  "Mae gennym oll rôl i'w chwarae."

Bydd tîm MESSAGE hefyd yn cyhoeddi deunyddiau ac adnoddau hyfforddi ychwanegol ar gyfer ymchwilwyr a sefydliadau ariannu.

'Gwneud synnwyr economaidd'

Darparodd siaradwyr dull TED ragor o fewnwelediadau, gyda Dr Aimee Grant, Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe yn hyrwyddo cynhwysiant mewn cyfranogiad cyhoeddus.

Trafododd Rachel Joseph, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, faterion yn ymwneud ag endometriosis, cyflwr sy'n effeithio ar 1 o bob 10 menyw yng Nghymru yn ôl y GIG.

Mae Ms Joseph eisoes wedi cydweithio â'r elusen Fair Treatment for the Women of Wales a Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor i ddatblygu prosiectau sydd â'r nod o wella cyfathrebu rhwng cleifion a darparwyr gofal iechyd.

Nawr, mae hi'n astudio PhD a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o'r enw 'Gwerthusiad Realist o weithredu gwefan endometriosis GIG sy'n canolbwyntio ar fenywod ac offer i gefnogi diagnosis mwy amserol a gwneud penderfyniadau ar y cyd ag ymarferwyr cyffredinol'.

Dywedodd hi:  "Mae fy mhenderfyniad i gael lleisiau cleifion endometriosis wedi cael eu clywed wedi datblygu i mi gwblhau ymchwil a pharhau i archwilio bydoedd eiriolaeth a pholisi."

Trwy gydol y dydd, cafodd y rhai a fynychodd gyfle i ymgysylltu ag arbenigwyr, meithrin cydweithio, a chael mewnwelediad i'r materion dybryd sy'n ymwneud ag ymchwil iechyd menywod.

Gyda menywod yn cyfrif am 51% o boblogaeth Cymru, roedd y gynhadledd yn llwyfan hanfodol ar gyfer hyrwyddo trafodaethau ar iechyd menywod, gan sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu clywed a'u hintegreiddio i fentrau ymchwil yn y dyfodol.

Ar ddiwedd panel iechyd menywod, crynhodd Rebecca Jones pam fod iechyd menywod yn bwysig.  Dyfynnodd ystadegyn o adroddiad Fforwm Economaidd y Byd 2024, a ddywedodd y gallai mynd i'r afael â bwlch iechyd menywod ledled y byd ychwanegu o bosibl roi hwb i'r economi fyd-eang o leiaf $1 triliwn bob blwyddyn erbyn 2040, a dywedodd: "Mae'n bersonol ac mae'n gwneud synnwyr economaidd."

Helpwch i lunio dyfodol iechyd menywod yng Nghymru drwy rannu eich profiadau yn ein harolwg a chyfrannu at ymchwil a fydd yn gwella cyfathrebu o amgylch gofal iechyd i fenywod a merched.