Lansio treial brechlyn mRNA norofeirws cyntaf erioed y DU yng Nghymru
22 Hydref
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Syr Frank Atherton, wedi canmol y rôl hanfodol y mae ymchwilwyr a chyfranogwyr Cymru yn ei chwarae mewn treial clinigol newydd arloesol, i werthuso effeithiolrwydd a diogelwch brechlyn norofeirws mRNA newydd.
Bydd y treial clinigol ar hap Cam 3 cyntaf, o'r enw Nova 301, yn cael ei gynnal mewn 39 safle, gan gynnwys Byrddau Iechyd Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Betsi Cadwaladr, a'i nod yw recriwtio 2,500 o gyfranogwyr yn y DU rhwng diwedd mis Hydref a dechrau 2025.
Mae'r treial, a noddir gan Moderna, yn gwerthuso effeithiolrwydd, diogelwch ac imiwnogenigrwydd brechlyn norofeirws ymchwiliol, mRNA-1403. Ar hyn o bryd nid oes brechlynnau norofeirws trwyddedig yn cael eu defnyddio yn unrhyw le yn y byd.
Meddai'r Athro Atherton: "Ynghyd â'n partneriaid mewn diwydiant ac ar draws y GIG, mae Cymru'n falch o chwarae ei rhan yn yr astudiaeth flaenllaw newydd gyffrous hon i ddod o hyd i frechlyn yn erbyn y Norofeirws.
"Gan ddefnyddio ein dull 'Cymru'n Un', mae gennym y gallu i sefydlu a chyflwyno treialon clinigol ar raddfa ac ar gyflymder, gan sicrhau bod ein cymunedau'n gallu cyfrannu mewn ffordd sy'n ychwanegu gwerth mewn gwirionedd."
Darganfyddwch fwy am y treial.
Cofrestrwch i ymuno â Be Part of Research i ddysgu am yr amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil yn eich ardal.