a_woman_smiling_in_front_of_a_bookcase

I drawsnewid ymchwil awtistiaeth, holwch bobl awtistig - Dr Aimee Grant

17 Ebrill

“Meddyliwch am awtistiaeth am eiliad.”

Dyma sut agorodd Dr Aimee Grant ei sgwrs bwerus arddull TED yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.

Ebrill yw Mis Derbyn Awtistiaeth, cyfle i bawb ddod at ei gilydd i annog derbyn awtistiaeth i greu cymdeithas lle mae pobl awtistig yn cael eu cefnogi, eu deall a'u grymuso.

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’n bosibl bod llawer o'r bobl yn yr ystafell yma heddiw yn meddwl am blentyn, plentyn ifanc fwy na thebyg, bachgen a bachgen gwyn at hynny.”

Ond mae hyn, ychwanegodd Dr Grant, yn gamsyniad cyffredin gan nad oes data ystyrlon i awgrymu “amrywiad o ran rhywedd na hil” o ran awtistiaeth.

“Mae'r cyfan yn ymwneud ag arferion hanesyddol o roi diagnosis,” meddai Dr Grant, Uwch Ddarlithydd a Chymrawd Datblygu Gyrfa Ymddiriedolaeth Wellcome ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae hyn yn rhywbeth y mae Dr Grant yn ceisio’i newid gyda'i hymchwil arloesol. 

Mae awtistiaeth yn anabledd niwroddatblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd. Mae tua 3% o bobl yn Awtistig, yn ôl Canolfan Rheoli Haint America. 

Mae llwybr Dr Grant i ymchwil awtistiaeth yn hynod bersonol – ar ôl degawd o ymchwilio i feichiogrwydd a mamolaeth gynnar ymylol, cafodd ddiagnosis ei bod yn awtistig yn 2019.

Amlygodd ei phrofiad o feichiogrwydd ectopig yn ystod y pandemig sut roedd gwasanaethau gofal iechyd yn aml yn methu â diwallu anghenion unigolion awtistig. 

Dywedodd Dr Grant: “Rwy'n hynod ddiolchgar eu bod nhw wedi rhoi'r llawdriniaeth frys i mi ac wedi achub fy mywyd. Ond, mewn gwirionedd, wnaeth y gofal a gefais i ddim diwallu fy anghenion.”

Gwnaeth hyn ei hysgogi i gyfuno ei harbenigedd ym maes gofal mamolaeth â ffocws ar  ymchwil awtistiaeth.

Erbyn hyn, mae Dr Grant yn arwain prosiect gwerth £2.4 miliwn wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome, sy’n archwilio profiad menywod awtistig a'r rhai ag awtistiaeth sy’n cael eu pennu’n fenywaidd adeg eu geni, o iechyd a gofal iechyd atgenhedlol.

Cynnwys grwpiau sy’n cael eu tanwasanaethu ar gyfer “ymchwil sydd o fudd i’r cyhoedd”

Mae'r astudiaeth, sy'n cael ei chynnal tan 2030 wedi recriwtio a chyfweld â 100 o bobl awtistig o gymunedau sy’n cael eu tanwasanaethu. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cyfweld hyd at ddeg gwaith dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'n gynhwysol ac yn cael ei harwain gan bobl awtistig, sy'n golygu, ynghyd â Dr Grant, fod pedwar ymchwilydd ôl-ddoethurol, ac mae'n cael ei llywodraethu ar y cyd gan gyngor o aelodau lleyg o’r gymuned awtistig. 

Mae'r cyngor yn ymwneud yn uniongyrchol â dylunio'r ymchwil ac mae’n sicrhau bod popeth, o'r amgylchedd i'r deunyddiau ar gyfer cleifion, yn hygyrch. 

Mae Dr Grant yn nodi mai’r dull hwn yw’r rheswm dros lwyddiant cynnar yr astudiaeth, a dywedodd: “Hyd yn hyn, does neb wedi gadael yr astudiaeth. Yn aml, mae cyfraddau tynnu’n ôl o ymchwil awtistiaeth yn uchel iawn.”

Mae gobaith y bydd hyn yn helpu i gyfrannu at fwy o ymchwil i awtistiaeth ymhlith oedolion a'r rhai sy'n cael eu pennu’n fenywaidd ar adeg eu geni – gan fod 98% o gyllid ymchwil awtistiaeth yn canolbwyntio ar blant, yn ôl Dr Grant. 

Yn ei sylwadau i gloi, anogodd Dr Grant bob ymchwilydd i flaenoriaethu cynnwys pobl leyg yn eu gwaith, nid yn unig ym maes awtistiaeth, ond o ran unrhyw gyflwr iechyd. 

Dywedodd Dr Grant: “Os ydych chi eisiau i'ch ymchwil fod o fudd i'r cyhoedd rydych chi’n ei dargedu, allwch chi ddim fforddio peidio â chlywed gan y rhai a danwasanaethir fwyaf yn y grwpiau hynny.

“A byddwn i’n gofyn i chi i gyd fynd un cam ymhellach a'u cynnwys fel partneriaid.”

Gwyliwch sgwrs arddull TED Dr Aimee Grant yn ein cynhadledd 2024 ar bwysigrwydd ymchwil gynhwysol a chynnwys y cyhoedd.

Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.