Goblygiadau effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a gofal cymdeithasol i ymchwilwyr a chyllidwyr ymchwil
21 Tachwedd
Mae dull cyfunol o ddeall a lliniaru effeithiau iechyd newid hinsawdd yn allweddol ar gyfer diogelu cenedlaethau'r dyfodol – dyna'r neges gan arbenigwyr a ddaeth ynghyd yng nghynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i drafod effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a gofal cymdeithasol.
Dan gadeiryddiaeth Dr Josie Jackson, Pennaeth Blaenoriaethu Ymchwil, Comisiynu, a Chynnwys Gwybodaeth yn Llywodraeth Cymru, aethpwyd ati i archwilio anghenion ymchwil brys a rôl cyllid wrth lywio systemau iechyd a gofal cymdeithasol cydnerth sy’n gallu gwrthsefyll effaith newid hinsawdd.
Cyflwynodd Dr Sara MacBride-Stewart o Brifysgol Caerdydd dystiolaeth gref a oedd yn dangos bod newid hinsawdd yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd. Roedd ei chanfyddiadau'n dangos y gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd y gellir eu hosgoi yn seiliedig ar ffactorau economaidd-gymdeithasol a bod yn agored i niwed o ran effeithiau’r hinsawdd, ac roedd y data'n atgyfnerthu'r angen am bontio teg i sero net, gan fynd i'r afael â nodweddion gwarchodedig ac anghyfartaledd economaidd-gymdeithasol.
Cyflwynodd Sara ddadansoddiad o drafodaethau’r panel Prif Ffrydio Cydraddoldeb ar gyfer Swyddi a Sgiliau Sero Net, i ddangos sut y gall camau arfaethedig ar gyfer cydraddoldeb gael eu trefnu o amgylch fframwaith cydraddoldeb sy’n addas ar gyfer y genhedlaeth newydd o bolisïau Pontio Teg yng Nghymru.
Pwysleisiodd Samantha Turner, Uwch Ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, bwysigrwydd cydweithio ymhlith ymchwilwyr i fynd i'r afael â'r rhyngweithio cymhleth rhwng risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a phoblogaethau sy’n agored i niwed yng Nghymru. Tynnodd sylw at botensial dadansoddi data cysylltiol a gesglir fel mater o drefn – fel cofnodion meddygon teulu, ysbytai, gweinyddol a meteorolegol – i lywio ymyriadau effeithiol.
Ac fe ddangosodd Lisa Wise, sy'n arwain is-adran Newid Hinsawdd ac Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, realiti amlwg gwastraff gofal iechyd yn ystod un cyfnod o 12 awr mewn uned gofal dwys. Rhybuddiodd hi y gallai'r bwlch rhwng uchelgeisiau hinsawdd byd-eang a'r targedau a osodwyd gan Gytundeb Paris beryglu iechyd y cyhoedd ymhellach os na chymerir camau ar unwaith.
Tanlinellodd y trafodaethau yr angen i ymchwilwyr a chyllidwyr fynd ati ar frys i ddylunio systemau carbon isel, cydnerthedd uchel a datblygu cynhyrchion fferyllol mwy gwyrdd. Wrth i ni wynebu pwyntiau tyngedfennol clefydau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, mae'r alwad am fesurau rhagweithiol yn glir.