Eich rôl yn nyfodol iechyd dynion
27 Tachwedd
Oeddech chi'n gwybod bod gan ddynion yng Nghymru risg o un o bob wyth o gael canser y brostad, y canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion ledled y wlad? Yn ystod Tashwedd eleni, hoffem ddathlu'r bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil a helpu i ysgogi ymdrechion ymchwil arloesol i wella canlyniadau iechyd dynion.
Rhannodd Bryan Grant, 78 o'r Barri, cyfranogwr yn yr astudiaeth ymchwil Add-Aspirin, ei brofiad o gymryd rhan mewn ymchwil, yn y gobaith o ysbrydoli mwy o ddynion i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol - cam hanfodol tuag at leihau marwolaethau y gellir eu hatal ymhlith dynion. Edrychodd Add-Aspirin a allai defnyddio aspirin helpu i atal canser y brostad rhag dod yn ôl ar ôl triniaeth.
Pam wnaeth Bryan ddewis cymryd rhan yn y treial?
Dechreuodd Bryan, sydd wedi arwain ffordd o fyw egnïol ers amser maith, brofi ychydig o boen yn ei werddyr ychydig cyn y pandemig COVID-19. Derbyniodd y newyddion bod angen llawdriniaeth arno i dynnu ei brostad. Aeth y tîm meddygol ato wedyn ynghylch ymuno ag astudiaeth ymchwil ar botensial aspirin i atal canser y brostad rhag dychwelyd, a chytunodd Bryan:
Dywedodd Bryan:
"Cefais lawdriniaeth i gael gwared ar fy mhrostad. Cytunais i gymryd rhan oherwydd os gallaf helpu rhywun o gwbl, byddaf yn gwneud unrhyw beth. Rwy'n falch iawn o allu helpu."
Beth oedd profiad Bryan o gymryd rhan yn y treial?
Dywedodd Bryan fod gwiriadau rheolaidd a chyfathrebu gyda'r tîm ymchwil yn gwneud iddo deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi drwy gydol y broses, a hefyd yn canmol caredigrwydd a phroffesiynoldeb y tîm ymchwil, gan eu disgrifio fel "hen ffrindiau" a sicrhaodd fod ganddo fynediad at y wybodaeth a'r adnoddau cywir. Tynnodd sylw at allu ymchwilwyr i ryngweithio â chyfranogwyr, gan eu gwneud i deimlo'n gartrefol ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn mwy o astudiaethau ymchwil.
Nid yw cymryd rhan mewn ymchwil dim ond yn ymwneud â datblygu triniaethau gwell; mae hefyd yn ymwneud â chreu diwylliant lle mae dynion yn teimlo'u bod wedi'u grymuso i gymryd rheolaeth o'u hiechyd. Mae stori Bryan yn dangos sut nad yw cymryd rhan mewn ymchwil yn frawychus ond yn hytrach gall fod yn brofiad boddhaus a gwerth chweil.
Dywedodd Bryan:
I mi, mae'n ymwneud â helpu eraill, gan wybod y gallai'r hyn rydyn ni'n ei wneud heddiw achub bywydau yfory."
Ewch i safle Byddwch yn Rhan o Ymchwil i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ddechrau cymryd rhan mewn ymchwil, ac i ddod o hyd i astudiaethau i gymryd rhan ynddynt.